Swyddogion fforensig yng Ngerddi'r Orsedd, Caerdydd heddiw
Dywed Heddlu De Cymru bod dyn wedi cael ei arestio wrth iddyn nhw ymchwilio i drydydd ymosodiad rhyw difrifol yng Nghaerdydd o fewn y pum diwrnod diwethaf.

Digwyddodd yr ymosodiad diweddaraf ar fenyw 19 oed yng Ngerddi’r Orsedd yng nghanol y ddinas, tua 4.30yb fore dydd Iau.

Cafodd y dyn ei arestio yn gynharach heddiw ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ym Mae Caerdydd. Ond mae’r heddlu’n pwysleisio bod eu hymchwiliad yn parhau.

Roedd rhan o’r parc gyferbyn a’r Amgueddfa Genedlaethol ynghau am rai oriau heddiw wrth i swyddogion fforensig archwilio’r safle, ond mae bellach wedi ail-agor.

Tri digwyddiad ‘tebyg’ ers dydd Sul

Dyma yw’r trydydd ymosodiad rhyw yn y ddinas ers dydd Sul.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r ddau ddigwyddiad arall, un yng Nghanolfan Dinesig Caerdydd yn ystod oriau mân ddydd Sul, 20 Medi a’r ail yn Nheras Cathays bore dydd Mawrth, 22 Medi. Roedd y ddwy a ymosodwyd arnyn nhw yn 20 oed.

“Tra bod tebygrwydd yn nhermau lleoliadau, amseroedd a natur y troseddau, mae’n rhy gynnar i ddweud os mai’r un dyn sy’n gyfrifol,” meddai’r Uwch-Arolygydd, Andy Valentine.

“Rydym yn gweithio’n galed iawn i ddod o hyd i bwy bynnag sy’n gyfrifol ac mae’r dioddefwyr yn cael cymorth gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.”

Mae’r heddlu wedi dweud y bydd swyddogion heddlu ychwanegol yn parhau ar batrôl i dawelu meddyliau trigolion yr ardal.

Yn y cyfamser mae’r heddlu wedi cynghori pobl i fod yn wyliadwrus ac i gymryd camau i ddiogelu eu hunain gan gynnwys aros mewn parau neu grwpiau wrth gerdded o gwmpas yn y nos, yn ogystal â chadw at leoedd sydd â digon o olau, ac yfed yn gyfrifol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cyngor i fyfyrwyr

Mae’r ardal lle ddigwyddodd yr ymosodiad yn agos iawn i adeiladau Prifysgol Caerdydd ac i Undeb y Myfyrwyr.

“Rydym yn sylweddoli bod y rhain yn ddigwyddiadau difrifol dros ben ac rydym yn cydweithio’n agos â Heddlu’r De i helpu eu hymchwiliad,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd.

Mae’r brifysgol hefyd yn dweud bod eu tîm diogelwch wedi bod yn ymweld â llety myfyrwyr y ddinas i drafod diogelwch personol.

“Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi proffesiynol i’n myfyrwyr. Dylai unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau hyn siarad â rhywun yn y gwasanaeth cefnogi myfyrwyr.”