Mae Heddlu De Cymru yn parhau i gynnal ymchwiliad yn dilyn ymosodiad rhyw difrifol ar fenyw 19 oed mewn parc yng Nghaerdydd yn oriau man y bore ma.

Digwyddodd yr ymosodiad yng Ngerddi’r Orsedd gyferbyn a’r Amgueddfa Genedlaethol, am 4.30yb fore dydd Iau.

Roedd rhan o’r parc ynghau am rai oriau heddiw ond mae bellach wedi ail-agor.

Dywed Heddlu’r De bod dyn wedi cael ei arestio yn gynharach heddiw ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ac yn cael ei gadw yn y ddalfa ym Mae Caerdydd. Ond maen nhw’n pwysleisio bod eu hymchwiliad yn parhau.

Tri digwyddiad ‘tebyg’ ers dydd Sul

Dyma yw’r trydydd ymosodiad rhyw yn y ddinas ers dydd Sul.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r ddau ddigwyddiad arall, un yng Nghanolfan Dinesig Caerdydd yn ystod oriau mân ddydd Sul, 20 Medi a’r ail yn Nheras Cathays bore dydd Mawrth, 22 Medi. Roedd y ddwy a ymosodwyd arnyn nhw yn 20 oed.

“Tra bod tebygrwydd yn nhermau lleoliadau, amseroedd a natur y troseddau, mae’n rhy gynnar i ddweud os mai’r un dyn sy’n gyfrifol,” meddai’r Uwch-Arolygydd, Andy Valentine.

“Rydym yn gweithio’n galed iawn i ddod o hyd i bwy bynnag sy’n gyfrifol ac mae’r dioddefwyr yn cael cymorth gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.”

Mae’r heddlu wedi dweud y bydd swyddogion heddlu ychwanegol yn parhau ar batrôl i dawelu meddyliau trigolion yr ardal.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cyngor i fyfyrwyr

Mae’r ardal lle ddigwyddodd yr ymosodiad yn agos iawn i adeiladau Prifysgol Caerdydd ac i Undeb y Myfyrwyr.

“Rydym yn sylweddoli bod y rhain yn ddigwyddiadau difrifol dros ben ac rydym yn cydweithio’n agos â Heddlu’r De i helpu eu hymchwiliad,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd.

“Mae’r heddlu yn atgoffa pobl i aros mewn parau neu grwpiau wrth gerdded o gwmpas yn y nos, yn ogystal â chadw at leoedd sydd â digon o olau.”

Mae’r brifysgol hefyd yn dweud bod eu tîm diogelwch wedi bod yn ymweld â llety myfyrwyr y ddinas i drafod diogelwch personol.

“Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi proffesiynol i’n myfyrwyr. Dylai unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau hyn siarad â rhywun yn y gwasanaeth cefnogi myfyrwyr.”