Fe fydd Mark Reckless yn dweud wrth raglen wleidyddol y BBC heddiw y bydd Plaid Brexit yn ymgyrchu o blaid diddymu’r Senedd yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf.

Bydd arweinydd y blaid yng Nghymru’n dweud wrth raglen Sunday Politics Wales heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 12) fod “datganoli wedi mynd ymhellach o lawer” na’r disgwyl.

Ei awgrym yn sgil diddymu’r Senedd yw ethol prif weinidog yn uniongyrchol, ac mae pôl yn ddiweddar yn awgrymu bod 22% o drigolion Cymru’n cytuno y dylid diddymu’r Senedd.

Ond roedd 24% hefyd o blaid cynnal y drefn bresennol, tra bod 20% am weld y Senedd yn derbyn rhagor o bwerau.

Roedd 16% o blaid annibyniaeth i Gymru.

Craffu

Fe fydd Mark Reckless yn egluro y byddai Aelodau Seneddol yn San Steffan yn craffu ar waith y prif weinidog o dan y drefn y mae’n ei chynnig.

Mae’n amau diben cael y Senedd a’i haelodau ochr yn ochr â San Steffan, ac mae disgwyl iddo ddweud:

“Mae llawer o bobol sydd heb ymgysylltu â gwleidyddiaeth ddatganoledig nawr yn gweld y pwerau sydd gan y lle yma, a byddai’n well gan nifer o’r bobol hynny gael eu llywodraethu ar raddfa’r Deyrnas Unedig na bod pethau’n cael eu gwneud yn wahanol yng Nghymru jyst er mwyn gwneud hynny, fel sydd yn aml wedi digwydd o dan Mark Drakeford.”

Coronafeirws

Fe fu Plaid Brexit yn feirniadol o’r cyfyngiadau sy’n cael eu cyflwyno gan Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru, gan ddadlau y dylai penderfyniadau fod yn nwylo’r bobol drostyn nhw eu hunain.

“Rydyn ni’n credu ei bod hi’n well o lawer ymddiried yn y bobol i farnu.

“Yr unigolyn sy’n gwybod orau.

“Dw i’n credu mai’r hyn welwn ni yw y bydd llawer mwy o bobol yn aros gartref.

“Ond y syniad yma eich bod chi’n dweud wrth bobol faint o weithiau y dylen nhw wneud ymarfer corff… Dw i ddim yn credu bod yna wyddoniaeth ar gyfer hynny.

“Dw i hefyd yn credu bod ymyrryd ym mywydau pobol yn beth mor fawr pan fo’r dystiolaeth mor brin.”