Mae podlediad y digrifwr Elis James sy’n trafod dwyieithrwydd wedi ennill Gwobr Aur Brydeinig.
Cipiodd Dwy Iaith, Un Ymennydd, sydd wedi’i gynhyrchu gan gwmni Alpha Cymru, wobr y Podlediad Cymraeg Gorau yng Ngwobrau Podleiadau Prydain.
Mae’r podlediad yn archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant, i ffordd arall o weld y byd, ac i bersonoliaethau gwahanol.
Yn ystod y gyfres, fe fu’n siarad ag amrywiaeth o bobol am ddwyieithrwydd – y cynhyrchydd a chyfarwyddwr Luned Tonderai, yr actor Richard Elis, yr awdur a pherfformiwr comedi Siân Harries, yr hanesydd yr Athro Prys Morgan, y digrifwr Esyllt Sears, y cyflwynydd radio a DJ Huw Stephens, y gohebydd seneddol Elliw Gwawr, comisiynydd comedi Radio 4 Sioned Wiliam a’r canwr-gyfansoddwr Gruff Rhys.
Dywedodd y beirniad fod “y cyflwynydd yn gwbl gartrefol a chynnes wrth gyfweld â’r gwesteion, oedd yn ddiddorol a chraff”, gan ychwanegu fod “y cynnwys yn rywbeth y gall unrhyw un sy’n siarad Cymraeg uniaethu â fe”.
Enillodd ‘Yr Haclediad’ gan Bryn Salisbury, Iestyn Lloyd a Sioned Mills y Wobr Arian, tra bod ‘Siarad Secs’ (Astud i BBC Cymru) gan Lisa Angharad wedi cipio’r Wobr Efydd.
Wel Iaaaasssu! https://t.co/QSANHkHzyq
— Elis James (@elisjames) July 11, 2020
WOO YAY
Enillwyr #BritPodAwards – gwobr aur am @elisjames Dwy Iaith Un Ymennydd. Diolch i’n gwesteion, @BBCRadioCymru, @gruffsion a @Rhuanedd ac am gyflwyniad gwych gan @sianharries_ a Rhod.Winners #BritPodAwards – gold award for @elisjames Dwy Iaith Un Ymennydd. https://t.co/D3Q45R7Wz0
— Alpha Cymru (@Alpha_Cymru) July 11, 2020