Mae’r cynlluniau ar gyfer tacsi dŵr rhwng Cymru a Lloegr wedi cael eu croesawu gan lefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn ôl Russell George, mae’r cynlluniau i ddefnyddio ynni gwyrdd i bweru’r cychod yn rhai “cyffrous ac arloesol”.

Cwmni adeiladu cychod o Aberplym (Plymouth) sy’n datblygu’r ddwy fferi fydd yn cael eu pweru gan hydrogen ac yn cynnwys paneli solar a thyrbinau gwynt.

Bydd fferi 19 metr o hyd yn gallu cludo 52 o deithwyr a fferi 12 metr o hyd yn gallu cludo 42 o deithwyr, ac yn costio tua £1m.

“Bydd hyn yn opsiwn cyffrous ac arloesol ar gyfer teithio rhwng Lloegr a Chymru, gyda’r potensial i leihau ein holion carbon, tynnu peth trafnidiaeth oddi ar ein rhwydwaith ffyrdd, a gwneud defnydd o un o’r llwybrau dŵr mwyaf hanesyddol yn y byd,” meddai Russell George.

“Mae celloedd tanwydd hydrogen yn cynhyrchu ager dŵr fel ‘allyriadau gwacáu’, nid gronynau carbon monocsid na diesel, a dyna ni.

“Unwaith caiff y fath uned yriant ei hadeiladu, mae’n ynni gwyrdd pur mewn gwirionedd.

“Dw i’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am y treialon fydd yn cael eu cynnal yn ddiwedarach eleni, a chynlluniau Patriot Yachts yn y dyfodol er mwyn i gerbyd mwy o faint weithredu o Gymru i Ilfracombe.”