Cory Allen
Mae Cymru wedi galw asgellwr y Dreigiau Tyler Morgan i’w carfan ar gyfer Cwpan y Byd yn dilyn anaf i Cory Allen yn ystod y gêm yn erbyn Wrwgwai ddydd Sul.
Ar ôl sgorio tair cais yng ngêm agoriadol Cymru, fe gafodd Allen anaf i linyn y gâr sydd yn golygu y bydd yn methu gweddill y gystadleuaeth.
Roedd Morgan, sydd wedi ennill un cap dros Gymru, yn un o’r olwyr oedd yng ngharfan estynedig Cymru ar gyfer Cwpan y Byd cyn iddo gael ei gwtogi.
Aros i glywed
Nid Cory Allen oedd yr unig un o chwaraewyr Cymru adawodd y cae ag anafiadau yn ystod y fuddugoliaeth o 54-9 dros Wrwgwai.
Mae tîm hyfforddi Cymru yn aros i weld pa mor ddifrifol yw’r anafiadau gafodd y tri phrop Samson Lee, Paul James (anafiadau cyhyrol) ac Aaron Jarvis (asennau).
Daeth Liam Williams hefyd oddi ar y cae yn yr hanner cyntaf gyda choes gwsg, ond y disgwyl yw y bydd e’n holliach erbyn diwedd yr wythnos i allu wynebu Lloegr dydd Sadwrn.
Mae carfan Cymru eisoes wedi dioddef anafiadau i rai o’i phrif chwaraewyr, gyda Leigh Halfpenny, Rhys Webb ac Eli Walker i gyd wedi gorfod methu’r gystadleuaeth ar ôl brifo yn ystod y cyfnod paratoadol.