George North
Fe allai newidiadau gael eu gwneud i’r rheolau rygbi ynglŷn â thaclo er mwyn lleihau’r risg o gyfergyd, yn ôl un o brif swyddogion meddygol y gêm.

Mae’r cyfaddefiad yn dod llai nag wythnos ers i gyn-flaenasgellwr Cymru Jonathan Thomas gyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi oherwydd epilepsi mae doctoriaid yn credu gafodd ei achosi gan sawl ergyd i’r pen.

Dywedodd Martin Raftery, sydd yn brif swyddog meddygol i World Rugby, wrth raglen y BBC, Panorama, bod adolygiad diogelwch eisoes yn cael ei gynnal allai arwain at ailedrych ar y rheolau taclo.

Symptomau

Fe ddaeth perygl cyfergydion i’r amlwg yn gynharach eleni ar ôl i asgellwr Cymru George North orfod cymryd saib o chwarae ar ôl iddo gael pedwar clec i’w ben o fewn ychydig fisoedd.

Mae bellach nôl yn chwarae ac mae disgwyl iddo fod yn rhan o dîm Cymru i wynebu Lloegr yng Nghwpan y Byd ddydd Sadwrn.

Ond mae’n broblem sydd wedi cynyddu o fewn rygbi’n ddiweddar, ac mae’r awdurdodau bellach wedi cyflwyno mesurau diogelwch llymach ynglŷn â sut i ddelio ag anafiadau o’r fath.

Yn ôl archwiliad gan undeb rygbi Lloegr yn 2013/14, cyfergyd oedd yr anaf mwyaf cyffredin yn ystod gemau am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Mae arbenigwyr yn credu bod symptomau cyfergyd yn gallu cynnwys newid mewn personoliaeth, hwyliau oriog, iselder ac anghofrwydd.