Fe fydd wicedwr Morgannwg, Mark Wallace allan o dîm y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 14 o flynyddoedd wrth i’r sir deithio i Fryste i herio Swydd Gaerloyw yng ngêm ola’r tymor.
Cafodd Wallace, 33, anaf i groth y goes tra’n batio yn erbyn Swydd Northampton yr wythnos diwethaf, ac fe fu’n rhaid iddo adael y cae gan golli gweddill y gêm.
Mae Wallace wedi chwarae 230 o gemau’n olynol ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Gaint yn Maidstone yn 2001.
Yn dilyn cadarnhad o’r newyddion y byddai’n colli’r daith i Fryste, dywedodd Mark Wallace: “Rwy wedi rhwygo croth y goes, sy’n dipyn o anaf hen ddyn – doedd e ddim yn ddiwrnod gwych i fi ar ôl i fi gael ergyd drom yn y bocs hefyd.
“Ro’n i newydd ddod dros hynny ac wedi llwyddo i rwygo croth y goes. Mae’r pethau hyn yn digwydd.
“Mae’n hen bryd i fi gael anaf, a bod yn deg. Byddwn i wedi cymryd 230 o gemau o’r bron pan ges i ‘ngalw i fyny i fynd i Maidstone yn 2001, felly alla i ddim cwyno.”