Emyr Huws - seren yr wythnos
Fe fydd cefnogwyr Cymru yn parhau i groesi bysedd bod Gareth Bale yn holliach ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Bosnia ac Andorra mewn ychydig llai na thair wythnos.

Doedd yr ymosodwr ddim yn nhîm Real Madrid a drechodd Granada dros y penwythnos ar ôl anafu cyhyr yn ei goes, ond yn ôl ei reolwr Rafa Benitez mae disgwyl i’r Cymro fod yn ffit yn weddol fuan.

Yn Uwch Gynghrair Lloegr colli 2-0 i Chelsea oedd hanes Arsenal ac Aaron Ramsey mewn gêm danllyd yn Stamford Bridge, gyda dau o chwaraewyr y Gunners yn gweld cardiau coch a Diego Costa’n gwneud ei orau i gorddi’r gwrthwynebwyr unwaith eto.

Arhosodd Abertawe yn wythfed yn y gynghrair ar ôl gêm ddi-sgôr yn erbyn Everton, gydag Ashley Williams yn enwedig yn graig yn yr amddiffyn a Neil Taylor hefyd yn chwarae’i ran.

Fe chwaraeodd Ben Davies 90 munud i Spurs wrth iddyn nhw drechu Crystal Palace, oedd â Wayne Hennessey a Joe Ledley ar y fainc, o 1-0.

Fe ddaeth James Collins ymlaen gyda phum munud i fynd er mwyn helpu West Ham i amddiffyn buddugoliaeth syfrdanol arall oddi cartref, yn erbyn Man City y tro hwn.

Daeth Andy King ar y cae yn y munudau olaf i Gaerlŷr wrth iddyn nhw gipio gêm gyfartal yn Stoke, ond fe arhosodd James Chester ar y fainc i West Brom wrth iddyn nhw ennill yn erbyn Aston Villa.

Y Bencampwriaeth

Emyr Huws oedd seren y gêm i Huddersfield wrth iddyn nhw frwydro nôl i drechu Bolton 4-1 ar ôl disgyn ar ei hôl hi.

Fe sgoriodd y chwaraewr canol cae ddwy gôl i’w dîm yn ogystal â chreu un i Mustapha Carayol, ac fe ychwanegodd Joel Lynch y gôl olaf saith munud o’r diwedd.

Ar ôl symud ar fenthyg i Blackburn o Gaerlŷr, fe ddaeth Tom Lawrence oddi ar y fainc a chreu argraff yn syth i’w glwb newydd wrth iddyn nhw drechu Charlton a Morgan Fox.

Fe greodd Lawrence gôl i Jordan Rhodes yn syth ar ôl dod ar y cae ar ôl 75 munud, cyn sgorio un ei hun ddeng munud yn ddiweddarach i sicrhau’r tri phwynt i’w dîm ef ac Adam Henley.

Daeth Simon Church oddi ar y fainc a chipio gôl i MK Dons wrth iddyn nhw golli 2-1 yn erbyn Leeds, ac fe sgoriodd David Cotterill i Birmingham wrth i’w dîm ef a Neal Eardley gipio pwynt yn erbyn Ipswich.

Colli oedd hanes David Vaughan a Nottingham Forest yn erbyn Middlesbrough, ond y newyddion da oedd bod Jonny Williams wedi dod oddi ar y fainc i Forest a chwarae’i gêm gyntaf o’r tymor yn dilyn ei anafiadau niferus.

Yng ngemau eraill y gynghrair fe ddechreuodd Chris Gunter a Jazz Richards i’w clybiau, ac fe ddaeth Wes Burns a Michael Doughty oddi ar y fainc.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban mae Aberdeen yn parhau i fod ar y brig ar ôl wyth buddugoliaeth allan o wyth, gyda Danny Ward yn y gôl ac Ash Taylor yn yr amddiffyn unwaith eto wrth iddyn nhw drechu Hearts.

Ac fe gafodd Owain Fôn Williams 90 munud arall i Inverness wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Dundee.

Seren yr wythnos – Emyr Huws. Cyfle am ddechrau ffres gyda Huddersfield ar ôl tymor siomedig â Wigan llynedd, ac ar ôl gwella o anaf fe gafwyd perfformiad gwych ganddo.

Siom yr wythnos – James Chester. Canfod ei hun ar y fainc unwaith eto, wrth i Tony Pulis ddewis Craig Dawson yn ei le yn yr amddiffyn.