Mae Jade Jones wedi cipio medal aur ac wedi cyrraedd brig rhestr detholion y byd yn Grand Prix Taekwondo y Byd yn Nhwrci.

Roedd hi’n fuddugol yn y categori 57kg wrth iddi baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro y flwyddyn nesaf.

Curodd Jones, 22, Yun-Wen Huang o Taiwan o 6-3 i sicrhau mai hi bellach yw’r gorau yn y byd.

Yn dilyn ei llwyddiant, dywedodd Jade Jones: “Rwy bob amser yn anelu i fod y gorau yn y byd ac os galla i berfformio’n dda yn y digwyddiadau hyn, mae’r cyfan yn helpu ar gyfer Rio.”