Mae’n bosib fod canolwr Cymru, Cory Allen allan o Gwpan Rygbi’r Byd yn dilyn anaf i linyn y gâr yn erbyn Wrwgwai yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sul.

Sgoriodd Allen, 22, dri chais wrth i Gymru ennill o 54-9.

Ond fe fu’n rhaid iddo adael y cae yn gynnar yn yr ail hanner, ac mae e wedi’i ychwanegu at restr anafiadau sydd eisoes yn cynnwys enwau Rhys Webb a Leigh Halfpenny.

Dywedodd Gatland wedi’r ornest fod yr anaf yn edrych yn sylweddol, ond y byddai Allen yn cael sgan ddydd Llun.

Mae pryderon hefyd am Liam Williams (cesail y forddwyd), Samson Lee (croth y goes), Paul James (croth y goes) a Dan Lydiate (pen) wedi i’r pedwarawd orfod gadael y cae.