Fe fydd Cymdeithas Cefnogwyr Anabl Clwb Pêl-droed Abertawe’n cynnal noson arbennig nos Fercher gydag un o hyfforddwyr y clwb, Alan Curtis.

Bydd y noson yn dechrau am 6 o’r gloch ac mae’n agored i gefnogwyr anabl a’u gofalwyr.

Cafodd y gymdeithas ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl.

Pwrpas y gymdeithas yw hyrwyddo lles cefnogwyr anabl drwy rannu gwybodaeth ac arfer da, a chynrychioli a hyrwyddo barn aelodau.

Ym mis Gorffennaf, roedd yr Elyrch ar frig tabl cyfleusterau gorau’r Uwch Gynghrair i gefnogwyr anabl.

Mae lle i 280 o gadeiriau olwyn o fewn y stadiwm – y gyfradd uchaf yn yr Uwch Gynghrair – er mai’r nifer a gafodd ei awgrymu ar gyfer Stadiwm Liberty pan gafodd ei adeiladu oedd 150.

Mae cyfleusterau eraill y stadiwm yn cynnwys lifft ym mhob rhan o’r stadiwm, toiledau i bobol anabl o dan bob eisteddle, mannau gollwng a chasglu cefnogwyr anabl, sylwebaeth i gefnogwyr â nam ar eu golwg.

Mae gan y stadiwm stiwardiaid ar gyfer cefnogwyr anabl.