Mae merch 17 oed wedi mynd ar goll o’i chartref yng Nghwm Afan am yr ail waith y mis yma.
Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth am Aidriana Gabarova.
Aeth hi ar goll o’i chartref rhwng Medi 4 a Medi 10.
Mae ganddi wallt brown hir ac mae hi’n denau.
Dylai unrhyw un sydd wedi’i gweld ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.