Llys Ynadon Casnewydd
Mae tri dyn wedi eu cyhuddo o ddwyn trelar oedd yn cludo gwerth tua £20,000 o fisgedi o Burton’s Food Ltd yng Nghwmbrân ar 17 Mehefin eleni.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 27 oed o Swydd Gaer wedi ei arestio ar dri chyhuddiad o ladrata, trin nwyddau oedd wedi’u lladrata, a gyrru heb yswiriant.

Cafodd dyn 36 oed o Lerpwl ei gyhuddo hefyd ar dri chyhuddiad o ladrata, trin nwyddau oedd wedi’u lladrata, a gyrru i ffwrdd, tra bod dyn 35 oed o Lerpwl yn wynebu dau gyhuddiad o ladrata.

Mae’r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar 29 Medi.