Mae wythnos y glas yn gyfnod cyffrous, llawn hwyl ac fel arfer yn eithaf gwallgof.

Dyma pryd fydd miloedd ar filoedd o fyfyrwyr ledled y wlad yn hel eu pac o’u cartrefi ac yn dechrau ar bennod newydd yn eu bywydau, yn gwneud ffrindiau newydd o bob rhan o’r byd ac yn mwynhau bod yn ifanc.

Ydy, mae’n gyfnod grêt ond gall fod yn un eithaf ansicr hefyd a gyda’r tymor newydd i fyfyrwyr yn prysur agosáu, golwg360 aeth i holi rhai myfyrwyr profiadol am eu tips am sut i wneud y gorau o’ch wythnos y glas cyntaf.

Dim byd rhy wirion’

“Peidiwch a gwneud rhywbeth rhy stiwpid yn ystod yr wythnos gyntaf achos byddwch chi’n cael eich adnabod fel y person a wnaeth y peth yna am weddill eich cyfnod yn y coleg,” meddai Nannon Evans sydd ar fin dechrau ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Gwnewch yn siŵr  eich bod yn ymuno â chymaint o gymdeithasau a chlybiau a phosib. Byddwch chi’n cwrdd â llwyth o bobl ac mae’n grêt gallu trio rhywbeth newydd. Mae’r brifysgol yn llawn profiadau gwahanol.”

Roedd Steffan Bryn Jones, sy’n dechrau ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn cytuno,

“Mae’n bwysig cael meddwl agored ac ymuno â chymdeithasau, yn enwedig y rhai Cymraeg!

“Peidiwch â bod ofn siarad â phobl, cnociwch ar ddrysau cymdogion eich llety, dyna’r ffordd orau i wneud ffrindiau.”

Mae alcohol yn helpu yn ôl rhai!             

Mae Rhys Jones, sy’n astudio Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Nottingham wrth ei fodd a byddai’n ail-fyw ei flwyddyn gyntaf i gyd eto os byddai’n gallu.

“Roeddwn i’n edrych ‘mlaen at rywbeth newydd,” meddai wrth sôn am ei benderfyniad i astudio mewn rhywle gwbl newydd.

“Peidiwch â bod yn nerfus achos mae pawb yn yr un cwch. Cymysgwch â chymaint o bobl a chi’n gallu – mae alcohol yn gallu helpu â hyn!”

Ac ar y pwynt hwnnw – beth yw’r tip pwysicaf oll, a fydd yn sicrhau eich poblogrwydd am weddill eich cyfnod yn y brifysgol? Steffan sydd â’r ateb – “paciwch bottle opener neu corkscrew, mae’r rheini’n ddefnyddiol!”