Ched Evans
Mae panel sydd yn asesu cais Ched Evans i apelio yn erbyn ei ddedfryd am dreisio dynes wedi dweud bod angen ymchwilio ymhellach nes y byddan nhw’n medru gwneud penderfyniad.

Cafwyd cyfarfod o dri chomisiynydd o’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol ddoe i drafod achos y pêl-droediwr, a dreuliodd ddwy flynedd a hanner yn y carchar am y drosedd cyn cael ei ryddhau llynedd.

Fe allai’r panel fod wedi dod i benderfyniad ynglŷn ag a oedd gan Ched Evans achos i geisio apelio ei ddedfryd neu ddim.

Fodd bynnag, maen nhw wedi penderfynu bod angen rhagor o ymchwilio i’w achos cyn bod modd gwneud penderfyniad.

Dim clwb

Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd yn 2012 ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty ger y Rhyl, ac fe gafodd ei ryddhau ar drwydded y llynedd hanner ffordd drwy’i ddedfryd.

Ond mae cyn bêl-droediwr Sheffield United a Chymru wastad wedi mynnu ei fod yn ddieuog, a bod y ddynes wedi cydsynio i gael rhyw gydag ef.

Yn fuan ar ôl cael ei ddedfrydu fe fethodd Ched Evans, sydd bellach yn 26 oed, mewn un ymgais i fynd a’i achos gerbron y Llys Apêl.

Ers cael ei ryddhau o’r carchar llynedd mae wedi ceisio ailddechrau ei yrfa bêl-droed, ond fe benderfynodd clybiau fel Sheffield United ac Oldham i beidio â’i arwyddo ar ôl pwysau gan gefnogwyr a noddwyr.

Dim dyddiad

Unwaith y bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y CCRC, fe allai gymryd dyddiau neu wythnosau iddyn nhw roi gwybod i Ched Evans ac eraill yn ymwneud â’r achos, gan gynnwys y ddioddefwraig.

“Fe benderfynodd y Pwyllgor fod angen ymchwilio ymhellach cyn eu bod yn cyfarfod eto i wneud penderfyniad terfynol ynglŷn ag a ddylid cyfeirio dedfryd Mr Evans yn ôl i’r Llys Apêl,” meddai llefarydd ar ran CCRC.

Does dim dyddiad wedi cael ei bennu eto ar gyfer y cyfarfod nesaf i drafod yr achos.