Mae pryderon am ffitrwydd Gareth Bale wedi iddo anafu cyhyr yn ei goes tra’n chwarae i Real Madrid nos Fawrth.

Daeth y Cymro oddi ar y cae ag anaf i groth y goes yn ystod buddugoliaeth ei dîm o 4-0 dros Shakhtar Donetsk yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Cadarnhaodd rheolwr Real Madrid, Rafa Benitez fod Bale wedi anafu’r cyhyr.

Dydy hi ddim yn glir eto pa mor ddifrifol yw’r anaf, ond fe fydd yn bryder i reolwr Cymru, Chris Coleman.

Mae Cymru’n teithio i Bosnia-Herzegovina ar Hydref 10 ar gyfer eu gêm olaf ond un yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016, ac fe fyddan nhw’n herio Andorra yng Nghaerdydd dridiau’n ddiweddarach.

Dywedodd Benitez y byddai’n rhaid aros ychydig ddiwrnodau cyn cael gwybod am ba hyd y bydd Bale allan.