Jonathan Edwards
Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi datgan eu “gwrthwynebiad chwyrn” i’r cynlluniau posib i dynhau’r Mesur Undebau Llafur.
Caiff y cynlluniau posib i’w gwneud hi’n anoddach i undebau weithredu’n ddiwydiannol eu trafod mewn dadl yn y Senedd heddiw.
Ond mae Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru, wedi beirniadu “cynlluniau llym y Torïaid”, gan ddweud eu bod fel plaid yn pryderu am effaith y cynlluniau ar hawliau gweithwyr yng Nghymru.
“Mwyaf llym yn y byd”
Yn y Senedd heddiw, bydd yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, yn galw am archwiliad gan y Comisiwn Brenhinol i’r problemau sy’n wynebu pobol mewn gwaith.
Mae’r newidiadau posib yn cynnwys cyflwyno trothwy uwch o 50% o bleidleisiau, cyfyngu ar bicedu a rheoli sut y caiff tanysgrifiadau i Undebau eu casglu.
“Bydd hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i weithwyr weithredu’n ddiwydiannol”, meddai Jonathan Edwards.
Mae cyfreithiau’r Mesur Undebau Llafur eisoes gyda’r “mwyaf llym yn y byd”, ychwanegodd, ac mae hi’n “drueni mai un o flaenoriaethau buan y Llywodraeth Geidwadol yw cyflwyno Mesur arall ar frys”.
‘Ystyried datganoli i Gymru’
Ychwanegodd eu bod fel plaid, yn pryderu am effaith y newidiadau ar allu’r Undebau Llafur i ymateb i sialensiau sy’n wynebu gweithwyr – megis cytundebau dim-oriau, cyflogau isel a hawliau yn y gweithle.
Am hynny, bydd yn datgan “gwrthwynebiad chwyrn” Plaid Cymru, ac yn galw am sefydlu Comisiwn Brenhinol i archwilio cysylltiadau diwydiannol a hawliau gweithwyr.
Mae hefyd yn galw ar unigolion a gwleidyddion blaengar Cymru i ystyried “a ddylai cyfrifoldeb y materion hyn gael eu datganoli i Gymru yn hytrach na San Steffan?”