Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad newydd ar wahardd ysmygu yn llwyr mewn carchardai erbyn mis Ebrill 2017.

Mae ysmygu wedi cael ei wahardd mewn mannau cyhoeddus caeedig a safleoedd gwaith yng Nghymru ers 2007, ac nid yw carchardai wedi eu heithrio.

Fodd bynnag, mae llywodraethwyr carchardai wedi bod yn caniatáu ysmygu mewn celloedd, sy’n golygu bod troseddwyr nad ydyn nhw’n ysmygu a staff carchardai yn dod i gysylltiad â mwg ail-law.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno rheoliadau newydd i symud yn raddol at garchardai di-fwg.

Meddai Mark Drakeford y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae lleihau nifer yr ysmygwyr yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant mawr o ran iechyd y cyhoedd, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfraddau ysmygu wedi gostwng 20%.

“Mae angen mynd i’r afael â’r broblem o ysmygu mewn carchardai, fel bod carcharorion a staff yn cael eu diogelu rhag y niwed posibl i’w hiechyd.

“Bydd symud i garchar hollol ddi-fwg yn gwella iechyd yr holl garcharorion a’r staff, ond mae’n rhaid ei reoli mewn ffordd na fydd yn cynyddu’r risg i ddiogelwch carchardai Cymru.  Mae’r rheoliadau arfaethedig yn un ffordd o gefnogi carchardai i gyrraedd y nod hon mewn ffordd sy’n cael ei reoli.”

Roedd adroddiad a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon a Choleg Brenhinol y Seicatryddion yn amcangyfrif bod dros 80% o garcharorion gwrywaidd a benywaidd yn y DU yn ysmygu.