Canolfan y Mileniwm, Caerdydd
Bydd digwyddiad theatrig yn yr awyr agored i ddathlu degfed pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C heno.

Chwedl oesol ‘Genedigaeth Taliesin’ sydd wrth wraidd y cynhyrchiad ‘Ar Waith ar Daith’, gyda dros 600 o gyfranwyr, a fydd yn cael ei lwyfannu ym masn Bae Caerdydd o flaen Canolfan y Mileniwm.

Bydd y Ganolfan yn cael ei thrawsnewid drwy gyfuniad o ddychmygion, gyda llynges fach o gychod o Gymdeithas Rhwyfo Môr Cymru yn cwblhau eu taith ym Mae Caerdydd. Bydd rhai o’r rhwyfwyr wedi teithio 230 o filltiroedd ar hyd yr arfordir o Borthmadog, gan ymuno â phlant ysgol o Gaernarfon, ffermwyr ifanc, a phobl ifanc o’r Cymoedd yn y Bae.

Shân Cothi fydd yn perfformio rhan y ddewines Ceridwen, a bydd y cynhyrchiad yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr ac enillydd gwobr BAFTA, John Rea.

Bydd y rhaglen Dathlu’r 10: Canolfan y Mileniwm hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau nifer fawr o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar draws Cymru yn gysylltiedig â’r dathliadau. Yn eu plith fydd gweithdai creadigol Crochan Ceridwen yng Nghaernarfon; hanes, chwedloniaeth a straeon am enedigaeth y bardd Taliesin yng Nghastell y Bere, ger Abergynolwyn yng Ngwynedd a sesiynau sy’n dathlu grym haearn a dur yng Nghasnewydd.

Ers iddi agor ym mis Tachwedd 2004 mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi croesawu dros 13.5 miliwn o bobl drwy’r drysau ac mae’n gartref i wyth o gwmnïau creadigol eraill.

Dathlu’r 10: Canolfan y Mileniwm 7.30 ar S4C heno