Emyr Llew yn tradoddi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis 'Gwaith fy Nhad'
Anhapusrwydd yn ei blentyndod oedd yn rhannol gyfrifol am lwyddiant awdur plant enwoca’ Cymru – meddai ei fab.
Roedd dychweliad ei dad o’r rhyfel wedi newid byd T. Llew Jones, meddai Emyr Llewelyn wrth draddodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis yn rhan o Ŵyl Golwg neithiwr.
Fel llawer o’r awduron plant mwya’, roedd ei blentyndod fel petai wedi rhewi y tu mewn iddo a hynny’n golygu ei fod yn gallu mynd yn ôl i fyd plant a chyfleu eu teimladau nhw.
Blas o ddarlith Emyr Llywelyn nos Iau:
‘Dim perthynas gynnes’
Yn ôl Emyr Llew, doedd yna ddim perthynas gynnes rhwng T. Llew Jones a’i dad – gwehydd a fu yn y Rhyfel Mawr ac a ddaeth yn ôl pan oedd yr awdur tua thair oed.
Roedd hynny, meddai Emyr Llew yn y ddarlith ‘Gwaith Fy Nhad’, wedi tarfu ar y berthynas glos iawn rhwnt T. Llew a’i fam.
Fe ddarllenodd rai o gerddi enwog ei dad – fel Sŵn – yn cyfleu unigrwydd a phryder plentyn bach yn oriau mân y bore, gan ddweud bod hynny’n debyg i brofiad un arall o’r awduron plant mwya’ Robert Louis Stevenson.
‘Y ddau awdur mwya’ poblogaidd’
Roedd Festri Brondeifi, Llanbed, yn orlawn ar gyfer y drydedd darlith flynyddol i gofio am Islwyn Ffowc Elis – yn ôl arweinydd y noson, Dylan Iorwerth, roedd y digwyddiad eleni yn dwyn at ei gilydd ddau awdur Cymraeg mwya’ poblogaidd yr 20fed ganrif.
Yn ogystal â’r dadansoddiad dwys, roedd yna lawer o chwerthin wrth i Emyr Llew adrodd hanesion am gymeriadau a digwyddiadau ardal plentyndod a gyrfa T. Llew Jones yng ngwaelod Ceredigion.
Roedd y ddarlith wedi ei noddi gan gwmni W. D. Lewis o Lanbed.