Fe fydd economi Cymru’n llithro ymhellach y tu ôl i economi gwledydd eraill Prydain erbyn 2020, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi gan Sefydliad Bevan.
Bwriad yr adroddiad ‘The Shape of Wales to Come’ yw creu darlun o economi Cymru ymhen pum mlynedd.
Mae Sefydliad Bevan yn gorff annibynnol sy’n datblygu syniadau a fydd yn gwella bywydau pobol yng Nghymru.
Dywed yr adroddiad mai swyddi proffesiynol a rheolwyr fydd yn cyfrif am 40% o holl swyddi Cymru.
Ond mae disgwyl i 10% o swyddi sgiliau rhannol a swyddi heb sgiliau ddiflannu.
‘Dyfodol llwm’
Fe fydd ansawdd bywyd rhai pobol yn gwella’n raddol, ond dyfodol llwm sydd i weithwyr yn y sector cyhoeddus a phobol sy’n derbyn budd-daliadau.
Lleiafrif bach o’r boblogaeth sydd mewn perygl o dlodi difrifol, meddai’r adroddiad.
Yn yr adroddiad, mae Sefydliad Bevan yn darogan y bydd 25,000 yn fwy o blant yn 2022 nag yn 2012 ac y bydd 115,000 yn fwy o bobol 65 oed neu hŷn.
Mae disgwyl i iechyd y boblogaeth ddirywio, gan gynnwys pobol sy’n dioddef o glefyd y siwgr.
Yn ôl y patrymau presennol, fe fydd 70,000 o bobol yn gadael yr ysgol heb bump TGAU da, ac fe fydd un o bob 12 o oedolion heb gymwysterau ffurfiol.
‘Heriau’
Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan ac awdur yr adroddiad, Victoria Winckler: “Rhain, fwy na thebyg, yw’r heriau mwyaf fu’n wynebu Cymru ers cenhedlaeth.
“Maen nhw’n anodd ar eu pennau eu hunain ond, fel bysus, maen nhw i gyd yn dod ar unwaith.
“Os nad yw Cymru gydag economi gwan, cymwysterau gwael a bygythiadau i’w hamgylchedd yn un sy’n apelio, yna rhaid i ni wneud rhywbeth amdano.
“Ond mae’r dyfodol gwleidyddol yn un ansicr hefyd. Erbyn 2020, mae’n bosib y bydd Cymru’n rhan o DU heb yr Alban, allan o’r Undeb Ewropeaidd ac wedi profi pedair blynedd o weinyddiaeth di-Lafur yn y Cynulliad.
“Ar yr un pryd, fe allai cyllideb Llywodraeth Cymru fod i lawr i’r un lefelau â 2010, gyda threthi’n cyfrif am un rhan o bump o’i hincwm.”