Naseer Muthana mewn fideo IS
Mae tad i ddau ddyn o Gaerdydd, y credir sydd wedi ymuno a’r grŵp brawychol IS, wedi dweud ei fod yn gofidio y gallai ei feibion fod ar restr Llywodraeth Prydain o unigolion i’w targedu.

Roedd  Aseel Muthana, 17,wedi ymuno a’i frawd, Naseer, 21 yn Syria y llynedd.

Roedd y ddau frawd yn gyfeillgar gyda’r jihadydd o Gaerdydd Reyaad Khan a gafodd ei ladd mewn ymosodiad gan awyren ddibeilot yr Awyrlu fis diwethaf.

Mae eu tad Ahmed Muthana, 57, wedi dweud ei fod yn credu mai dim ond mater o amser fydd hi cyn bod ei feibion yn cael eu lladd.

Dywedodd Ahmed Muthana, sy’n byw yn Nhrebiwt yng Nghaerdydd, wrth bapur y Guardian: “Rwy’n gofidio y gallai fy meibion.. fod ar y rhestr. Dwi ddim yn credu y bydda’i yn gweld fy meibion eto.”

Daeth ei sylwadau ar ôl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon ddweud bod tri o bobl eraill a oedd yn peri bygythiad i’r DU ac y gallai ymosodiadau o’r awyr gael eu cynnal eto.

Ond mae Fallon wedi gwadu awgrymiadau bod hyn yn gyfystyr a “rhestr o bobl i’w lladd.”

Tristwch

Yn y cyfamser mae’r pryder yn parhau i Ahmed Muthana a’i deulu. Roedd ei fab Nasser, a oedd yn fyfyriwr meddygol, wedi mynychu’r un ysgol a Reyaad Khan a chredir ei fod wedi cael ei radicaleiddio tua’r un pryd.

Fe ymddangosodd yn ddiweddarach ar fideo recriwtio aelodau i IS, ynghyd a Khan yn Syria.

Tri mis yn ddiweddarach roedd ei frawd iau Aseel wedi ymuno ag ef yn Syria – ac wedi dweud mewn negeseuon ar-lein ei fod yn “barod i farw” yn enw eithafiaeth Islamaidd.

Dywedodd Ahmed Muthana ei fod wedi tristau’n fawr gan y digwyddiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a’i fod yn amau’n fawr a oedd Khan wedi bod yn cynllwynio ymosodiad ar y DU.