Mae’r RSPCA yn galw am unrhyw wybodaeth ynglŷn â chi a ddaethpwyd o hyd iddo’n farw, ac yn hongian oddi ar giât, yn ardal Abertyleri, Blaenau Gwent ddydd Gwener.

Dywedodd yr Arolygydd Izzy Hignall fod aelod o’r cyhoedd wedi dod o hyd i’r ci ger Llanhilleth a bod darn o’i gadwyn wedi’i glymu o gwmpas ei wddf.

Mae’n debyg fod y ci wedi’i fygu i farwolaeth, ond nid yw hynny wedi’i gadarnhau eto.

“Rydyn ni wedi llwyddo i ddod o hyd i’r perchnogion ac maen nhw’n hynod o drist am yr hyn sydd wedi digwydd,” ychwanegodd Izzy Hignall.

‘Peryg y gallai fod yn fwriadol’

Enw’r ci oedd Blaze, ac mae’n debyg iddo dorri’n rhydd o’r gadwyn oedd yn ei ddal yn ei gartref am tua 11yh y noson gynt.

Nid oes cadarnhad eto ynglŷn â beth yn union ddigwyddodd i’r ci, ond mae’n bosib ei fod wedi dianc, wedi’i daro mewn damwain ac yna wedi ceisio neidio dros y giât, ond wedi methu â gwneud hynny.

“Ond mae peryg hefyd y gallai hyn fod wedi’i wneud yn fwriadol hefyd”, meddai’r arolygydd.

“Felly, ry’n ni’n gofyn am unrhyw wybodaeth er mwyn ceisio deall beth a ddigwyddodd”.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r Arolygydd Izzy Hignall drwy ffonio llinell arolygiaeth yr RSPCA ar 0300 123 8018.