Bydd Gŵyl Rhif 6 yn ôl ym Mhortmeirion am y 4ydd tro eleni, wrth i’r lleoliad arbennig ar lannau’r môr baratoi am filoedd o fynychwyr brwd.

Mae disgwyl i bron i 14,000 o bobl fynd i’r ŵyl i fwynhau penwythnos llawn cerddoriaeth, bwyd a digwyddiadau diwylliannol amrywiol, y cyfan oll yng nghanol tirlun braf y pentref glan môr.

Felly beth sydd tu ôl i lwyddiant yr ŵyl hon?

Mae Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Portmeirion Cyf yn credu mai’r cyfuniad o leoliad unigryw’r ŵyl a’r ffaith bod y digwyddiad yn ‘gwneud y mwyaf o’r tirlun’ sy’n ei gwneud hi’n mor arbennig.

“Mae’r lleoliad yn gweithio’n dda gyda’r ŵyl, mae’n rhan o ysbryd yr ŵyl,” meddai wrth golwg360.

“Mae hwn yn ddigwyddiad diwylliannol ac mae’n apelio at rywun sydd eisiau rhywbeth bach yn wahanol.”

Yr enwau mawr fydd yn perfformio dros y penwythnos yw Metronomy, Grace Jones a Belle & Sebastian.

Mae llwyth o artistiaid Cymraeg hefyd ar y lein-yp, gan gynnwys Gwenno Saunders, Yws Gwynedd, Y Ffug, Palenco a llawer mwy.

Grŵp sy’n edrych ymlaen at gael perfformio ar lwyfan Nyth Gwydir ddydd Sul yw Yr Eira.

“Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod i’r ŵyl o’r blaen ac mae’n wych,” meddai Lewys Wyn, canwr a gitarydd y grŵp.

“Mae awyrgylch hynod o chilled yno, ac mae’r lleoliad yn unigryw. Mae hefyd yn gyfle i ni chwarae i gynulleidfa wahanol.”