Amelia Womack
Mae Dirprwy Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr yn gobeithio bod y cyntaf o’i phlaid i gael ei hethol yn y Cynulliad.

Eisoes mae Amelia Womack wedi cyflwyno ei phapurau enwebu i’r blaid yng Nghymru ac os caiff ei dewis, bydd yn sefyll yn etholaeth Canol Caerdydd, y sedd sydd â’r boblogaeth uchaf o fyfyrwyr.

Bydd hefyd yn sefyll yn y ras am sedd De Cymru Canolog, o dan y System Aelodau Ychwanegol yng Nghymru.

Y Gwyrddion yn hyderus

Mae’r blaid yn dweud eu bod yn hyderus o gipio sedd Canol Caerdydd oherwydd nifer y myfyrwyr a phobl ifanc sy’n byw yn yr etholaeth honno.

Mae’r myfyrwyr yn cyfri am 20% o boblogaeth Caerdydd, gyda’r rhan helaeth ohonyn nhw yn byw yn yr etholaeth allweddol hon.

O 14 Medi ymlaen, bydd aelodau’r blaid yn penderfynu ar yr ymgeiswyr i bob sedd etholiadol, ac mae Amelia Womack yn anelu am y brig.

Cyfle am newid radical

“Mae hwn yn gyfle i’r Blaid Werdd gyflawni newid radical yng Nghymru,” meddai Amelia Womack.

“Byddai’r Blaid Werdd yn buddsoddi yn nyfodol Cymru, gan weithio i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i fuddsoddi yn y diwydiant gwyrdd, gan helpu i sicrhau swyddi at y dyfodol.

“Mae’n glir bod awch am gynrychiolaeth Werdd yng Nghymru ac mae’r cyfle i bleidleisio mewn etholiad cyfrannol yn golygu y gallwn greu hanes gyda’n AC cyntaf ym mis Mai 2016”.

Aelod Cynulliad presennol Canol Caerdydd yw Jenny Rathbone o’r Blaid Lafur. Cipiodd y sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010.