Ar drothwy penwythnos mawr i dîm pêl-droed Cymru, daeth cadarnhad eu bod nhw wedi codi uwchben Lloegr ar restr detholion Fifa am y tro cyntaf.

Mae Cymru’n aros yn nawfed ar restr Fifa, tra bod Lloegr wedi disgyn i’r degfed safle.

Bydd Cymru’n herio Cyprus yn Nicosia heno yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016, cyn wynebu Israel yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Byddai dwy fuddugoliaeth yn sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Mae’r Alban wedi codi un safle i rif 31 ar y rhestr, tra bod Gogledd Iwerddon wedi disgyn un safle i rif 41.

Mae Gweriniaeth Iwerddon hefyd wedi disgyn un safle i rif 51.