Bydd rali yn cael ei gynnal ar ddydd Sul, 6 Medi yn y Senedd yng Nghaerdydd fel rhan o ddigwyddiadau tebyg sy’n cael eu cynnal ledled y byd i gefnogi annibyniaeth i Gatalwnia.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan drigolion sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd ond sy’n wreiddiol o Gatalwnia, a bydd aelodau’r mudiad YesCymru hefyd yn cefnogi’r rali.
Mae’r Cymro o Gaerffili, Emyr Gruffydd, sydd wedi byw yn Barcelona am dair blynedd hefyd wedi bod yn flaenllaw yn y trefnu.
Yn ôl ef nod y digwyddiad yw “codi ymwybyddiaeth o’r broses yng Nghatalwnia a datgan ein cefnogaeth i’r bobl”.
“Rydym am roi hwb i’r ymgyrch yng Nghatalwnia a dangos i Gymru bod hyn yn rhywbeth posib a phositif y gallwn ei wneud gyda’n gilydd,” meddai.
Miloedd i orymdeithio
Cynhelir y digwyddiad cwta wythnos cyn diwrnod cenedlaethol Catalwnia – 11 Medi, lle fydd miloedd o bobl ar strydoedd Barcelona yn galw am annibyniaeth. Bydd hefyd yn arwain at Etholiad Seneddol Catalwnia a gaiff ei gynnal ar 27 Medi, pan fydd y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yn ymuno â’i gilydd er mwyn cael mandad i gyflawni eu nod.
Cynhaliwyd refferendwm answyddogol ym mis Tachwedd y llynedd a phleidleisiodd dros 80% o Gatalwniaid o blaid annibyniaeth, er i Sbaen gyhuddo’r refferendwm o fod yn un anghyfreithlon.
O Gatalwnia i Gaerdydd
Un arall sydd ynghlwm â’r trefnu yw Jan Bosch de Doria. Mae’n dod o’r ddinas Mataró yng Nghatalwnia ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers blwyddyn. Mae’n cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia ac mae’n gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn dros y byd yn creu momentwm i’r ymgyrch.
“Rwy’n gobeithio bydd y digwyddiad yng Nghaerdydd yn hybu’r ymgyrch yng Nghatalwnia ond hefyd yn rhoi hwb i’r ymgyrch am annibyniaeth yma yng Nghymru,” meddai wrth Golwg360.
Mae e am weld annibyniaeth yn dod i Gatalwnia er mwyn cael mwy o gyfleoedd am waith: “Mae’n anodd iawn i bobl ifanc ddod o hyd i waith yn ein gwlad. Mae Catalwnia yn gyfoethog ond mae ein holl arian yn mynd i Fadrid ac mae cyflogaeth ymysg pobl ifanc y wlad yn isel iawn. Does neb yn credu yn Llywodraeth Sbaen rhagor, does dim ffydd.”
Er mae’n cydnabod bod cefnogaeth i annibyniaeth wedi gostwng ers y refferendwm y llynedd, “Mae’r momentwm wedi mynd i lawr rhywfaint ond gallwn ei godi unwaith eto.”
Mae’r cenedlaetholwyr am ddod â’r undeb sydd wedi bodoli ers 1469 i ben ond mae rhai yn erbyn gan ddweud mai dim ond ateb dros dro i broblemau’r wlad yw mater annibyniaeth, ac na fyddai’n datrys ei holl broblemau.