Ysgol Bro Myrddin
Yn dilyn cyfarfod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr yr wythnos hon, mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin gam yn nes at ddod yn ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg gyntaf i Sir Gaerfyrddin.
Trafodwyd y mater yn ystod y cyfarfod, a bellach mae’r cynnig wedi’i gymeradwyo ac wedi’i drosglwyddo i gyfnod o ymgynghori statudol.
Y bwriad yw i’r ysgol symud tuag at y dosbarthiad cyfrwng Cymraeg swyddogol erbyn mis Medi 2016.
‘Cadarnhaol’
Golyga hyn y bydd pob pwnc heblaw am Saesneg, ond yn cynnwys Gwyddoniaeth a Mathemateg, yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond, “mae’r newid eisoes wedi digwydd,” esboniodd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Bro Myrddin.
Dengys ffigurau’r ysgol fod y rhan fwyaf o ddisgyblion eisoes yn dewis astudio eu pynciau drwy’r Gymraeg, ac eleni mae pob dosbarth mathemateg blwyddyn 11 yn cael eu dysgu drwy’r Gymraeg.
Esboniodd y Pennaeth fod y tueddiadau hyn yn “syfrdanol” a “chadarnhaol” ac yn deillio o’r gefnogaeth tua’r Gymraeg a geir yn yr ysgolion cynradd a bod hynny’n bwydo’n naturiol i’r ysgolion uwchradd.
Mynegodd hefyd fod y staff “yn gefnogol i’r fenter” ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynorthwyo rhieni di-gymraeg drwy “ddarparu deunyddiau dwyieithog a chydweithio’n agos”.
Y camau nesaf
Ar hyn o bryd, mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ysgol ddwyieithog categori 2A sy’n golygu bod o leiaf 80% o’r cwricwlwm yn cael ei ddysgu drwy’r Gymraeg.
Mae’r camau nesaf yn cynnwys cyflwyno adroddiad i’r Cyngor Sir, cyhoeddi hysbysiad yr ymgynghoriad statudol gan anelu i droi’r ysgol yn ysgol gyfrwng Cymraeg swyddogol erbyn Medi 2016.
“Mae hwn yn gyfle i arwain y ffordd yn y sir ac yng ngorllewin Cymru ac, yn wir, i Fro Myrddin greu hanes trwy sefydlu’r ysgol gyfun Gymraeg gyntaf yn Sir Gaerfyrddin”, meddai’r Cynghorydd Gareth Jones ac Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg.