Mae Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru wedi mynegi pryderon am gynlluniau Llywodraeth Cymru i roi’r hawl i’r cyhoedd gael mynediad i holl diroedd gwyrdd Cymru at ddibenion hamdden cyfrifol.

Mae’r cynlluniau wedi’u hamlinellu ym Mhapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

Does dim disgwyl i ddeddfwriaeth newydd ddod i rym cyn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, ond mae Llywodraeth Cymru’n ystyried nifer o gamau a allai effeithio’n negyddol ar fywydau ffermwyr o ddydd i ddydd.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys:

– diddymu cyfyngiadau ar yr ystod o weithgareddau y gellir eu cynnal ar dramwy cyhoeddus

– caniatáu gweithgareddau hamdden mewn ardaloedd newydd gan gynnwys ymestyn y diffiniad o dir mynediad

– gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i adolygu eu rhwydwaith o lwybrau ac ardaloedd mynediad yn y gobaith o addasu’r rhwydwaith a chysylltu ardaloedd mynediad gan ddefnyddio ‘coridorau gwyrdd’.

‘Diffyg gwybodaeth’

Mewn datganiad, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Materion Gwledig, Bernard Llewellyn: “Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwahodd safbwyntiau ar sefydlu cytundeb hollol newydd i Gymru a fyddai’n caniatáu mynediad ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol ar bob darn o dir.

“Tra byddai deddfwriaeth newydd yn cynnwys mecanweithiau ar gyfer cyfyngu ar fynediad yn barhaol neu dros dro i gwrtilau eiddo ac adeiladau fferm, er enghraifft, rydym yn gofidio ynghylch y diffyg gwybodaeth sydd wedi’i rhoi ynghylch camau i ddiogelu busnesau fferm ac yn gofyn beth a olygir wrth ‘hamdden gyfrifol’ a phwy fydd yn gyfrifol am orfodi hyn?”

“Mae ffermwyr, wrth reswm, yn gofidio am yr effaith a gaiff ragor o fynediad ar reoli eu busnesau fferm o ddydd i ddydd.

“Mae cefn gwlad Cymru’n amgylchfyd byw, gweithgar – llawr y ffatri ydyw i ffermwyr, mewn gwirionedd – ac mae peryglon yn ymwneud â da byw, peiriannau, gweithgareddau chwistrellu cnydau, a rhaid rheoli hyn oll.

“Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu na fydd rhoi mynediad i’r holl diroedd yng Nghymru yn arwain at y canlyniadau y mae Llywodraeth Cymru am eu gweld – fe fydd, fodd bynnag, yn gosod costau a bwrn ychwanegol ar ysgwyddau ffermwyr.”