Mae uned babanod newydd-anedig yn Ysbyty’r Brifysgol Caerdydd wedi cael ei chau am fod haint wedi torri allan yno.
Dywedodd Cyngor Iechyd Caerdydd fod yr Ysbyty wedi cymryd camau brys i atal yr haint, a bod y ward wedi’i chau ddydd Iau.
Ar hyn o bryd, mae 18 o fabanod yn derbyn gofal ar y ward. Yn ôl gwefan newyddion Wales Online, mae 12 o fabanod wedi cael eu heintio, er nad oes modd cadarnhau hynny.
Fe ddywedodd y Prif Swyddog Iechyd, Stephen Allen, fod Cyngor Iechyd Caerdydd wedi mynegi pryderon dwys yn ystod sawl ymweliad yn y gorffennol.
“Yn dilyn ein ymweliad diweddaraf ym mis Chwefror eleni, mi roedd ein pryderon heb newid,” meddai.
“Un mater yn enwedig, oedd y pryderon am fesurau rheoli haint lle roedd staff yn gorfod newid yn y toiledau, sy’n gwbl anerbyniol.”
Ychwanegodd fod gan y Bwrdd Iechyd gynlluniau i ail-leoli’r uned o fewn yr ysbyty.