Cyngor Sir Benfro
Mae crwner wedi dyfarnu mai damwain oedd marwolaeth dyn mewn pwll yn Sir Benfro yn gynharach eleni.
Bu farw John William Lyall, 56, wedi iddo ddisgyn i Lyn y Felin yn Sir Benfro ar 16 Ebrill.
Dyfarnodd y crwner heddiw ei fod wedi marw trwy ddamwain.
Mae tri pherson wedi marw mewn digwyddiadau ar wahân yn Llyn y Felin ers dechrau’r flwyddyn.
Mae Cyngor Sir Benfro wedi amddiffyn eu penderfyniad i beidio gosod rhwydi diogelwch o amgylch y pwll gan ddweud na fyddai’n ymarferol.