Fe fydd mudiad Trac Cymru yn cynnal cwrs penwythnos o ddigwyddiadau ym mis Medi maen nhw’n gobeithio fydd yn apelio at bobl o bob oed sydd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth werin.
Yn ystod y penwythnos o weithgareddau ‘Yr Arbrawf Mawr’ fe fydd cyfle i bobl gymryd rhan a chael eu tiwtora mewn sesiynau offerynnol, canu a chlocsio.
Mae disgwyl i’r sesiynau gael eu harwain gan sawl tiwtor sydd yn adnabyddus o fewn cerddoriaeth werin yng Nghymru gan gynnwys Oliver Wilson-Dickson, Sioned Webb, Dan Lawrence, Neil Browning, Arfon Gwilym, Huw Williams, Sammie Bond a Jenn Williams.
Bydd cyfle hefyd i’r cyhoedd ddod i wrando ar y sesiynau fydd yn digwydd yn y prynhawn a chyda’r nos ar benwythnos 11-13 Medi, yn ogystal â’r cyngerdd ar y dydd Sul.
‘Addas i bob gallu’
Cost y cwrs, sydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Conway ger Llanfairpwll ar Ynys Môn, yw £80 ond fe allai hynny gynyddu i hyd at £170 y person wrth gynnwys llety.
Mae disgwyl y bydd hyd at 30 awr o hyfforddiant ar gael gan gynnwys sesiynau offerynnol cymysg, canu, dawnsio gwerin a dawns y glocsen, wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol alluoedd.
Bydd y sesiynau yn cael eu rhedeg drwy’r Gymraeg, gyda chyfieithydd preswyl yno i gynorthwyo dysgwyr a’r di-Gymraeg.
“Mae’n awyrgylch wych i ddysgu cyfoeth o ganeuon ac alawon newydd, i wella’ch techneg, i arbrofi gydag offerynnau anghyfarwydd (ac anarferol), i brofi gwahanol fathau o ganeuon a dawnsiau, ac i gwrdd â ffrindiau newydd ar yr un pryd,” meddai trefnwyr y digwyddiad.