Mae’r cwmni dur Tata Steel am gael gwared a 250 o swyddi, yn ol adroddiadau.

Mae lle i gredu bod yr holl swyddi’n cael eu torri ar eu safle yn Llanwern ger Casnewydd.

Mae’n debyg mai gweithwyr asiantaeth fydd yn cael eu heffeithio’n bennaf.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd swyddog cenedlaethol undeb GMB, Dave Hulse ei fod yn “newyddion drwg i’r diwydiant dur”.

“Daw hyn yn syth wedi’r cyhoeddiad diweddar fod 720 o swyddi am gael eu colli yn y Busnes Arbenigedd.

“Bydd y 250 o swyddi fydd yn cael eu colli’n dod o weithwyr asiantaeth sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd ar safleoedd Tata Steel.

“Mae pryderon gwirioneddol ag iddyn nhw sail dda ynghylch dyfodol y diwydiant dur yn y DU.”

Gofyn am gyfarfod gyda Cameron

Ychwanegodd y byddai Pwyllgor Dur yr Undebau Llafur yn anfon llythyr at Brif Weinidog Prydain, David Cameron yn gofyn am gael cyfarfod i drafod eu pryderon.

“Byddwn yn gweld cymunedau lleol yn cael eu dinistrio gyda diweithdra sylweddol tra bydd cydbwysedd y diffyg cyflog yn cynyddu ymhellach os nad ydyn ni’n gweithredu nawr ac yn ceisio cefnogaeth a gweithgarwch y Llywodraeth.”

Ychwanegodd ysgrifennydd cyffredinol Community a chadeirydd Pwyllgor Dur yr Undebau Llafur, Roy Rickhuss: “Rydym yn cydnabod yn llawn fod Tata Steel, felly hefyd y diwydiant dur cyfan yn y DU, dan bwysau anferth i leihau costau a dod yn gynaliadwy.”

Ychwanegodd fod costau ynni uchel, nerth y bunt a mewnforion yn lladd y diwydiant.

“Fodd bynnag, mae’n drueni eithriadol fod y rhan fwyaf fydd yn colli eu swyddi’n bobol ifanc frwdfrydig ac ymroddgar, sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd drwy asiantaeth ond a oedd wedi gobeithio dilyn gyrfa o fewn Tata Steel.

“Mae’n drasig fod y bobol ifanc hyn, a gafodd eu hyfforddi gan Tata ac o dan amgylchiadau arferol fyddai wedi cael eu hystyried yn ddyfodol y busnes, yn cael eu gadael yn rhydd mewn ymgais i dorri costau ac aros yn gystadleuol yn y farchnad fyd-eang.”

Dywedodd y Gweinidog Busnes Anna Soubry: “Does dim dwywaith bod y diwydiant dur yn wynebu amodau heriol iawn.

“Mae’r Llywodraeth yn parhau i weithio’n agos gyda’r sector i ddarparu cymorth lle y gallwn ni.”

‘Torcalonnus’

 

Dywedodd William Graham, llefarydd busnes y Ceidwadwyr Cymreig, bod y newyddion yn “syfrdanol” a “thorcalonnus”.

Fe ddywedodd fod y Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi “honni buddsoddiad dros bum mlynedd i ddiogelu swyddi” yn Tata Steel yn ystod 2012.

Am hynny, mae’n galw am ddatganiad brys oddi wrth Lywodraeth Cymru ac eglurhad oddi wrth y Prif Weinidog am ddyfodol Tata Steel yng Nghymru.

Aeth yn ei flaen i ddweud fod y newyddion yn “dorcalonnus i Gasnewydd a’r economi Gymreig yn gyffredinol”.

“Rhaid inni gynnig pob cefnogaeth bosib yn awr i’r rheiny sy’n wynebu colli eu swyddi.”