Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion
Fe fydd llwyfan arbennig ar gyfer artistiaid cerddorol lleol o Ogledd Cymru yn cael ei sefydlu yng Ngŵyl Rhif 6 y penwythnos nesaf.
Fe gadarnhaodd trefnwyr heddiw eu bod wedi cytuno i roi llwyfan i ddetholiad o artistiaid fel rhan o Gwylfa’r Goedwig, ar ôl cydweithio â Chyngor Celfyddydau Cymru a’r trefnwyr digwyddiadau Sera Owen a Roger Hughes.
Bydd y perfformwyr ar y llwyfan lleol yn yr ŵyl, sydd yn digwydd ar benwythnos 4 Medi, yn cynnwys un o sefydlwyr gwreiddiol Gorky’s Zygotic Mynci, John Lawrence.
Bydd y canwr a’r cyfansoddwr Dan Amor, prif leisydd Courteous Thief Gary Roberts a thalentau ifanc fel Beth Angharad o Fangor ac Arron Cooper o Fae Colwyn hefyd yn perfformio dan faner ‘CEG’ (Cerddoriaeth Eryri a’r Gogledd).
‘Syniadau cyffrous’
“Mae’r gefnogaeth gan Gŵyl Rhif 6 wedi bod yn grêt – maen nhw’n cydnabod pwysigrwydd cael artistiaid lleol yn rhan ohoni,” esboniodd Sera Owen.
“Mae gennym ni lawer o syniadau ac wedi dechrau adeiladu partneriaethau cerddorol cyffrous ar gyfer y dyfodol.”
Ymysg y prif artistiaid sydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni mae Grace Jones, Belle & Sebastian, Metronomy, Catfish and the Bottlemen, James, Badly Drawn Boy, James Bae a Years and Years.
Mae’r artistiaid Cymraeg sydd hefyd wedi’u cadarnhau yn cynnwys 9 Bach, Yws Gwynedd, Ifan Dafydd, Y Ffug, Y Pencadlys, Estrons, The Gentle Good ac Yr Eira.