Mae ffigyrau newydd gan Sefydliad y Galon yn datgelu bod 12 o bobl dan 65 oed yn marw o drawiad ar y galon bob wythnos yng Nghymru.

Ond mae adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod cyfraddau goroesi ar gyfer clefyd y galon yn gwella a bod llai o bobl yn marw cyn amser o glefyd coronaidd y galon.

Meddai’r ffigyrau gan Sefydliad y Galon hefyd fod ysbytai Cymru wedi delio gyda bron i 9,600 o achosion o drawiad ar y galon yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf – cynnydd o 8,000 ar y flwyddyn flaenorol.

Dros y DU, meddai’r elusen, bu bron i 10,000 o bobl o dan 65 oed ddioddef trawiad ar y galon angheuol y llynedd – sy’n cyfateb i 200 o farwolaethau bob wythnos.

Clefyd y galon

Mae Sefydliad y Galon wedi rhyddhau’r ffigyrau wrth iddyn nhw lansio ymgyrch i dynnu sylw at sut y gall cyflyrau’r galon, gan gynnwys trawiad ar y galon, effeithio teuluoedd ar draws y wlad bob dydd.

Ac er gwaethaf gwelliant yn y nifer o bobl sy’n goroesi clefyd ar y galon, meddai Sefydliad y Galon bod angen mwy o waith ymchwil i dargedu prif achos trawiad ar y galon – clefyd coronaidd y galon – sy’n parhau i ladd mwy yn y DU nag unrhyw glefyd arall.

Mae tua 135,000 o bobl yng Nghymru’n byw gyda chlefyd y galon.

‘Rhagor o ymchwil’

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Sefydliad y Galon, Yr Athro Peter Weissberg: “Trwy ymchwil meddygol, rydym wedi gwneud cynnydd mawr yn achub bywydau pobl sy’n dioddef o drawiad ar y galon. Ond allwn ni ddim meddwl ein bod ni wedi datrys y broblem.

“Er gwaethaf gwybod am ffactorau risg pwysig, fel ysmygu, does gennym ni ddim ffordd o atal achosion trawiad ar y galon, a dim ond rhagor o ymchwil all gynnig unrhyw ateb.”

‘Llai yn marw o glefyd y galon’

Heddiw hefyd, lansiodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, ail Adroddiad Blynyddol Cymru Gyfan ar Glefyd y Galon, a chyhoeddodd bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £2m i roi monitorau diffibrilwyr newydd mewn ambiwlansys yng Nghymru.

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad blynyddol yn cynnwys:

–          Mae’r ffaith bod mwy o achosion yn cael eu canfod, y gwaharddiad ar ysmygu mewn lleoedd cyhoeddus ac ymdrechion ym maes iechyd y cyhoedd wedi golygu bod llai o bobl yn marw’n gynnar o glefyd coronaidd y galon. Yng Nghymru, bu farw 400 yn llai o bobl yn 2012 nag yn 2010.

–          Mae bron 97% o oedolion rhwng 35 a 74 oed yn goroesi ar ôl cael eu derbyn i’r ysbyty yn dilyn trawiad ar y galon.

–          Fodd bynnag, mae nifer y cleifion â phwysau gwaed uchel, sy’n gallu cynyddu’r perygl o ddatblygu cyflyrau cardiofasgwlaidd, yn parhau i godi.

Dywedodd Vaughan Gething: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi sylw i’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud mewn ysbytai ar hyd a lled Cymru. Mae’r canfyddiadau’n dangos ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu ar gyfer pobl â chlefyd y galon, a sut mae’r cyfraddau goroesi’n cynyddu.

“Mae’r adroddiad yn dangos ein hymrwymiad i fod yn dryloyw, ac yn nodi ble mae’r GIG yn gwneud yn dda a ble mae angen iddo wella, fel y gallwn sicrhau bod pobl o bob oed, ble bynnag y maen nhw’n byw a beth bynnag yw eu hamgylchiadau, yn cael mynediad at ofal ardderchog yn y GIG.”