Fe allai’r diwydiant dŵr yng Nghymru arbed miliynau drwy gynhyrchu trydan gan ddefnyddio pŵer dŵr ar raddfa fach iawn yn eu pibelli a’u systemau eu hunain.

Dyna ganfyddiad ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor a Trinity College, Dulyn, sydd wedi amcangyfrif y gallai Dŵr Cymru arbed £1m y flwyddyn a defnyddio’r arbedion hynny i gadw biliau’n isel.

Byddai’r cynllun yn gweithio drwy osod tyrbinau pŵer dŵr o fewn systemau presennol y cwmnïau dŵr, ac felly’n cynhyrchu trydan heb orfod buddsoddi mewn systemau newydd.

Cafwyd croeso i’r ymchwil gan Dŵr Cymru, gyda llefarydd ar ran y cwmni yn cydnabod fod angen iddyn nhw wneud mwy ym maes ynni dŵr ac y byddan nhw yn edrych ar gost y tyrbinau newydd.

Arbedion

Ar hyn o bryd mae’r diwydiant dŵr yn defnyddio llawer o ynni er mwyn trin, pwmpio a dosbarthu dŵr a gwastraff o amgylch y wlad, a hynny’n cynhyrchu nwyon tŷ gwydr.

Gobaith y prosiect Hydro-BPT gwerth €1miliwn (£700,000) rhwng y ddwy brifysgol oedd edrych ar effeithiolrwydd y system cyflenwi dŵr presennol, y dechnoleg orau, beth fyddai cost cyflwyno system o’r fath a beth fyddai’r buddiannau amgylcheddol.

Yn ôl yr ymchwil byddai modd i Dŵr Cymru arbed £1miliwn ychwanegol y flwyddyn drwy gynhyrchu oddeutu 10 miliwn cilowat o drydan gan ddefnyddio safleoedd trydan-dŵr bach yn eu systemau.

Byddai hynny’n ddigon i bweru o leiaf 2,000 o gartrefi yng Nghymru, a hynny drwy harneisio’r dŵr sydd eisoes yn llifo o fewn y system, a hefyd yn atal tua 10,000 tunnell o nwyon tŷ gwydr rhag cael eu rhyddhau i’r atmosffer drwy gynhyrchu trydan.

Costau

Cafodd y prosiect ei arwain gan Dr Prysor Williams o Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor.

Dywedodd Prysor Williams wrth Golwg360 fod yr ymchwil wedi dangos beth oedd potensial ynni dŵr micro, a’u bod eisoes wedi dangos i Dŵr Cymru ble byddai’r llefydd gorau i roi tyrbinau yn eu systemau.

Fodd bynnag, gan mai’r cwmni dŵr sydd yn berchen ar y systemau, nhw fydd yn penderfynu os a phryd y bydd hi’n gost-effeithiol iddyn nhw osod tyrbinau o’r fath yn eu lle.

“Mae’r project Hydro-BPT wedi ein helpu ni i ddeall pethau’n well a dweud y lleiaf”, meddai Prysor Williams.

“Does dim dwywaith nad yw’r diwydiant dŵr yn dangos ymwybyddiaeth o effeithlonrwydd ynni, a gall y tîm Hydro-BPT eu cynorthwyo i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy”.

Croesawodd Mike Pedley, Pennaeth Ynni Dŵr Cymru, ganfyddiadau’r project gan ddweud bod y “prosiect yma wedi bod yn fodd i amlygu lle y gallwn wneud mwy, pe bai’r dechnoleg yn datblygu”.