Paul Flynn
Mae Aelod Seneddol Llafur o Gymru wedi egluro ei resymau dros beidio cefnogi Jeremy Corbyn yn ras i fod yn arweinydd nesaf y blaid.

Yn ôl yr asgellwr chwith, Paul Flynn, mae’n ddiwerth cael egwyddorion os nad yw’n bosib eu gweithredu.

Er mai Jeremy Corbyn ydi ei “ffrind agosaf” o fewn yr ymgeiswyr, mynnodd Paul Flynn ar ei flog heddiw mai plaid wleidyddol yw Llafur “nid grŵp pwyso”.

Mae gwleidyddiaeth y ddau yn debyg, gydag Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd yn datgan ei fod wedi siarad ar fwy o lwyfannau cyhoeddus â’r ceffyl blaen yn y ras nag unrhyw aelod arall.

“Ar y materion pwysig fel rhyfel a’r amgylchedd yn Nhŷ’r Cyffredin, rydym wastad yn siarad ac yn pleidleisio ar yr un ochr,” meddai Paul Flynn.

“Felly pam nad ydw i’n pleidleisio iddo fel arweinydd? Oherwydd mai plaid wleidyddol genedlaethol yw Llafur, nid grŵp pwyso.

“Mae hi’n ofer bod yn ideolegol berffaith ond yn wleidyddol yn ddi-werth gan nad yw’n bosib eu gweithredu.

“Mi fedrwn ni newid yr arweinydd, dydi hi ddim yn bosib newid etholwyr.”

Fe fyddai Paul Flynn “wrth ei fodd” yn credu y gall llywodraeth gyda pholisïau Jeremy Corbyn gael ei hethol yn 2020 gan y byddai’n creu gwlad “tegach a heddychol”.

Ychwanegodd: “Fe all llwyddiannau’r llywodraeth wych 1945-51 gael ei hail-adrodd. If only. Rhwng y freuddwyd a realiti mae cysgod o realaeth.

“Y neges mae’r timau canfasio yn dderyn ar stepen y drws yr wythnos hon yw bod cefnogaeth fwyafrifol i unrhyw blaid yn annhebygol iawn.”