Y blismones Louise Lucas, a laddwyd mewn damwain ar y Kingsway ym mis Mawrth eleni
Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi cynlluniau i geisio lleihau nifer y damweiniau ar un o ffyrdd prysuraf y ddinas.

Fe gyhoeddwyd heddiw y bydd Ffordd y Brenin – y Kingsway yn Abertawe – yn system draffig unffordd o’r hydref hwn ymlaen.

Mae hyn yn golygu ail-weithio’r ffordd y mae bysus yn gyrru ar hyd y Kingsway, ac fe allai lôn feics newydd sbon fod yn rhan o’r drefn newydd.

Fe ddaeth y cyhoeddiad heddiw yn dilyn cyfres o ddamweiniau ar y ffordd yng nghanol y ddinas, a marwolaeth y blismones, Louise Lucas, ym mis Mawrth eleni.