Mae dwy fenter newyddion lleol wedi cael eu lansio ar faes yr Eisteddfod sydd yn profi’n rhan o waddol y Brifwyl ym Meifod.

Bydd Pobl Dinefwr a Pobl Maldwyn yn gymunedau digidol sydd yn darparu newyddion lleol i bobl yr ardal drwy’r Gymraeg.

Mae’r ddwy fenter yn ganlyniad i ymweliadau’r Eisteddfod â Llanelli llynedd a Sir Drefaldwyn eleni.

“Yn dilyn llwyddiant yr Eisteddfod llynedd yn Sir Gâr, roedden ni’n awyddus i barhau gyda’r gwaith caled gafodd ei wneud,” meddai Owain Gruffudd o Pobl Dinefwr, oedd yn Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod llynedd.

Y gobaith yw gweld menter debyg yn cael ei sefydlu bob blwyddyn o hyn ymlaen yn ardal yr Eisteddfod.

Cymorth o Gaerdydd

Mewn partneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol mae’r Ganolfan Newyddiaduriaeth Gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynnal prosiect digidol yn casglu newyddion, storïau a barn ymwelwyr ar faes yr Eisteddfod am y tair blynedd diwethaf.

Y disgwyl yw y bydd gwaith y prosiect, Llais y Maes, eleni yn cael ei drosglwyddo i Pobl Maldwyn wedi’r Eisteddfod.

“Cymuned yw’r Eisteddfod,” meddai Emma Meese o Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd gan nodi hefyd y pwysigrwydd o gyfathrebu digidol.

Pwysleisiodd Owain Gruffudd ei fod yn bwysig i adael “gwaddol Cymreig” wedi ymweliad yr Eisteddfod â bröydd Cymru.

Mae mentrau Pobl Caerdydd, Pobl Bro Morgannwg a Pobl Aberystwyth eisoes yn bodoli.

‘Swyddogion gwaddol’

Yn y lansiad hefyd fe soniwyd ychydig am gynlluniau posib ar y gweill rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol i sefydlu Swyddogion Cymunedol yn y bröydd Eisteddfodol.

Pwrpas y swyddogion hynny fyddai sicrhau bod gwaddol yr Eisteddfod yn parhau i elwa’r gymuned leol, gyda swyddogion yn debygol o weithio yn y cymunedau hynny am dair blynedd o’r flwyddyn cyn yr ŵyl i’r flwyddyn ganlynol.

Dywedodd Mererid Haf, Prif Swyddog Menter Iaith Maldwyn ei fod yn “bwysig i ni fel y fenter iaith leol ein bod ni ddim yn colli ar gryfder y gwaith cymunedol sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd diwethaf”.

Bydd y “gofod ar-lein”, meddai, yn hwyluso cysylltiadau mewn ardal gyda chymunedau gwasgaredig.