Mae Cymru wedi codi i’r nawfed safle ar restr detholion Fifa, yr uchaf iddyn nhw fod erioed.
Fis diwethaf fe wnaethon nhw godi i 10 ucha’r detholion am y tro cyntaf erioed, a hynny ar ôl trechu Gwlad Belg mewn gêm yng ngrŵp rhagbrofol Ewro 2016.
Daeth cadarnhad bore dydd Iau gan Fifa wrth iddyn nhw gyhoeddi’r rhestr ddiweddaraf.
Mae Cymru wedi codi uwchben yr Iseldiroedd, sydd bellach yn ddeuddegfed yn y rhestr.
Uwch na Lloegr?
Ond er y dyfalu ynghylch safle Lloegr, daeth cadarnhad eu bod nhw’n aros uwchben Cymru yn yr wythfed safle.
Mae disgwyl fodd bynnag iddyn nhw godi’n uwch na Lloegr pan fydd y rhestr nesaf yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi.
Dydy’r newyddion ddim cystal i’r Alban, sy’n rhif 32 yn y rhestr, a Gogledd Iwerddon sy’n rhif 40.
Yr Ariannin sydd ar y brig, a Gwlad Belg, sydd yng ngrŵp Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2016, yn yr ail safle.
Buddugoliaeth Cymru dros Wlad Belg yn yr ymgyrch ar gyfer Ewro 2016 sy’n bennaf gyfrifol am eu codi mor uchel yn y rhestrau.