Mae’r ddau droellwr ifanc o Hwlffordd, Kieran Bull ac Andrew Salter wedi’u cynnwys yng ngharfan Morgannwg ar draul y troellwr llaw chwith profiadol, Dean Cosker ar gyfer ymweliad Swydd Gaerloyw ag Abertawe.

Mae’r batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan ar ôl colli’r daith i Fae Colwyn.

Hon fydd ymddangosiad olaf Donald yng ngharfan Morgannwg cyn iddo deithio i Ogledd Ddwyrain Lloegr i arwain tîm dan 19 oed Lloegr mewn cyfres undydd yn erbyn Awstralia sy’n dechrau ddydd Mawrth nesaf.

Ar ôl i’r glaw olygu bod gêm 50 pelawd Morgannwg yn erbyn Swydd Sussex yng nghwpan Royal London wedi dod i ben yn gynnar, dywedodd Aneurin Donald: “Roedd y llain yn edrych yn eithaf da, felly mae’n siom i beidio chwarae heddiw a chael canlyniad.

“Mae’n llain sy’n cynhyrchu canlyniadau yma fel arfer ac mae’r ornest yn erbyn Swydd Gaerloyw yn gêm fawr i ni unwaith eto.

“Mae cyfle da i’n troellwyr ni fel arfer tua diwedd y gêm ac mae Abertawe wedi bod yn gae llwyddiannus i ni ar hyd y blynyddoedd.”

Fis yn unig wedi iddo gyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i fod yn gapten, fe fydd wicedwr Swydd Gaerloyw, Geraint Jones yn arwain y sir yn absenoldeb y capten newydd, Michael Klinger.

Orielwyr San Helen

Ar drothwy’r gêm Bencampwriaeth flynyddol yn Abertawe, dywedodd cadeirydd clwb cefnogwyr Orielwyr San Helen, John Williams wrth Golwg360: “Gobeithio ein bod ni’n lwcus i gael tywydd braf. Mae’n bwysig ofnadw.

“Mae ’na lot o deimlad am gael criced yn Abertawe. Mae hyn yn dangos i ni fel cymdeithas faint o bobol sy’n gwerthfawrogi beth y’n ni’n gwneud fel cymdeithas.”

“Gwaith enfawr” yw cynnal yr ŵyl yn ôl John Williams.

“Allwch chi byth gwneud digon. Mae cymaint o waith yn Abertawe i edrych ar ôl pobol sy’n ein cefnogi ni, fel gwerthu lletygarwch. Ni sy’n cydlynu rhwng Cyngor Abertawe, y clwb rygbi, Morgannwg a ni. Ry’n ni mewn pedair partneriaeth i gadw pethau i fynd. Mae cyd-dynnu wedi gwella ar hyd y blynyddoedd. Gobeithio gyda’r dirwasgiad sydd gyda ni ym mhob cyngor ein bod ni’n gallu cadw i fynd.”

Er bod y Swalec SSE bellach yn brif gartref tîm Morgannwg, mae lle o hyd i wyliau criced yn y caeau allanol, meddai.

“Mae pobol yn dod i Abertawe i aros, yn yr un ffordd ag y bydden ni’n mynd i Scarborough, er enghraifft. Pan aethon ni i Scarborough, roedd y bws yn llawn fisoedd cyn y gêm. Mae’n atyniad i bobol fynd i lefydd ar lan y môr. Mae pobol yn gofyn i fi, “Alli di helpu ni fel bo’n sir ni’n chwarae lawr yn Abertawe?” Mae cymaint mwy gyda’r caeau criced ar lan y môr i’w gynnig.

“Ry’n ni’n dod i ben yn eitha’ da. Mae’r gwaith rhyfedda gyda ni i’w wneud. Ry’n ni’n trio fel cymdeithas i fynd beth mae’r Sais yn ei alw’r ‘extra mile’. Ry’n ni’n trio dangos i Forgannwg bod ’na chwant am griced yn dal i fod lawr yma yn y gorllewin achos mae tueddiad i anghofio.”

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Ingram, C Cooke, A Donald, D Lloyd, G Wagg, C Meschede, M Wallace, A Salter, D Cosker, M Hogan, K Bull

Carfan 13 dyn Swydd Gaerloyw: G Jones, C Dent, W Tavare (capten), G Roderick, B Howell, M Hammond, K Noema-Barnett, M Taylor, J Fuller, T Smith, C Miles, L Norwell, D Payne