Rali GB Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi Rali GB Cymru tan ddiwedd 2018.
Bydd hyn yn golygu y bydd y gystadleuaeth yn parhau i gael ei chynnal yng ngogledd Cymru, ac y bydd yn parhau fel rhan o Bencampwriaeth Ralio’r Byd.
Mae swyddogion, cystadleuwyr a phobol leol wedi croesawu cefnogaeth y Llywodraeth i ymestyn cytundeb ariannol y Rali am dair blynedd arall.
Buddiannau lleol
Llywodraeth Cymru yw prif bartner ariannol cystadleuaeth Rali GB Cymru ers 2003.
“Rydym wrth ein bodd â’r cytundeb newydd”, meddai Ben Taylor, Rheolwr Gyfarwyddwr IMS (Chwaraeon Modur Rhyngwladol), “ac mae eu cefnogaeth [Llywodraeth Cymru] wedi bod yn allweddol i lwyddiant hir sefydlog y rali”, ychwanegodd.
Dywedodd hefyd bod y rali yn sicrhau gwerth £10m o fuddsoddiad i economi Cymru gan ddenu busnes, twristiaeth a nifer o fanteision masnachol eraill i’r wlad.
Croesawodd Edwina Hart, y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, y cytundeb hefyd gan ddweud: “Mae’r digwyddiad uchel ei broffil hwn yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae wedi datblygu lle pwysig ar galendr Pencampwriaeth Rali’r Byd”.
Cafodd Rali GB Cymru ei lleoli yn ne Cymru rhwng 2003 a 2012, ond symudodd i ogledd Cymru yn 2013.
“Mae symud i ogledd Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr”, meddai Ben Taylor, “a gallwn yn awr edrych ymlaen at ddatblygu a gweithredu cynlluniau newydd i’r dyfodol”.
Cytunodd Edwina Hart gan ddweud fod y rali wedi datblygu i ddenu cynulleidfaoedd ehangach yn ddiweddar, a’i bod yn “darparu llwyfan delfrydol i arddangos yr ystod eang o gyfleusterau sydd gan Gymru, o olygfeydd ysblennydd, i’r diwydiannau a’r deunyddiau gweithgynhyrchu i’r gallu i ddarparu digwyddiadau byd-eang yn llwyddiannus”.
Ymateb y cystadleuwyr
Roedd rhai o gystadleuwyr mwyaf enwog a llwyddiannus y byd yn barod iawn i ddangos eu cefnogaeth i benderfyniad Llywodraeth Cymru.
“Fel un o’r ardal, rwy’n gwybod yn iawn faint o les mae digwyddiad fel hyn yn ei gael ar yr ardal yng ngogledd Cymru”, meddai Elfyn Evans o dîm Rali’r Byd M-Sport.
“Byddwn i wrth fy modd yn cael bod ar y podiwm”, meddai, “a hyd yn oed ennill Rali GB Cymru cyn 2018!”
Roedd Sébastien Ogier hefyd yn gefnogol i’r cynllun, a dywedodd, “mae Rali GB Cymru yn rali hanesyddol yn y bencampwriaeth”.
“Dyma garreg filltir i’r digwyddiad fynd o nerth i nerth”, meddai Malcolm Wilson, a esboniodd na allai ddychmygu cynnal pencampwriaeth y byd heb y rali hon.
“Mae’n newyddion gwych fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r digwyddiad unwaith eto”, meddai Kris Meeke.
“Mae Rali GB Cymru wastad wedi bod yn rhan o’r bencampwriaeth, ac fel yna y dylai aros”, ychwanegodd.
Mae Rali GB Cymru yn uchafbwynt ar galendr ralio’r Deyrnas Unedig ac mae’n cael ei chydnabod ar draws y byd fel un o’r rhai mwyaf heriol.
Caiff ei chynnal eleni rhwng 12-15 o Dachwedd.