Ap 'Mentro Meifod'
Os ydych chi lawr am yr wythnos yn Eisteddfod Meifod ac eisiau mynd am dro oddi ar y maes am ddiwrnod, mae un fyfyrwraig wedi helpu datblygu’r Ap perffaith i chi!
Mae Eiri Angharad, myfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi lansio Ap am ddim o deithiau cerdded o gwmpas Sir Drefaldwyn fydd yn cael ei lansio ar faes yr ŵyl dydd Llun.
Yn ogystal ag awgrymu teithiau cerdded o gwmpas ardal Maldwyn a thywys cerddwyr gyda signal GPS, bydd Ap ‘Mentro Meifod’ hefyd yn darparu gwybodaeth lenyddol a diwylliannol am y fro.
Cafodd y prosiect ei ddatblygu ar y cyd â chwmni Geosho o Gaernarfon, ac yn ôl Eiri Angharad ei gobaith yw y bydd ymwelwyr i’r brifwyl yn cael eu denu “i fod â diddordeb yn hanes yr ardal”.
‘Addas i bob gallu cerdded’
Does dim angen bod yn gerddwyr brwd i fanteisio ar yr Ap, yn ôl Eiri Angharad, ac mae’n “addas i bob gallu cerdded”.
Mae modd lawrlwytho’r ap i ddarllen y cynnwys yn unig hefyd, ac mae’r fyfyrwraig yn hyderus ei fod yn “addas i ddysgwyr ac i bobl sydd ddim yn medru’r Gymraeg hefyd” gan fod fersiwn Cymraeg a Saesneg ohoni i’w gael.
Mae’r Eisteddfod yn hen gyfarwydd a gweld lansiadau pob mathau o gynnyrch yn ystod wythnos yr ŵyl.
Ond gobaith Eiri Angharad yw bod Ap digidol yn fodd o estyn allan at gynulleidfa newydd.
“Byddai’n ddiddorol gweld os yw darparu gwybodaeth ar ffurf ap yn hytrach na llyfr neu gylchgrawn yn denu mwy o bobl i ddangos diddordeb yn nhreftadaeth lenyddol bro’r Eisteddfod – pobl efallai na fyddai wedi bod â llawer o ddiddordeb o’r blaen,” meddai.
Mae’r ap eisoes ar gael i’w lawrlwytho, a gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan www.mentromeifod.co.uk.