Cyn-ffermwr ac athro 84 oed o’r Bala sydd wedi ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod eleni – y person hynaf erioed i dderbyn y gydnabyddiaeth.
Roedd Glyn Baines yn athro yn Ysgol y Berwyn yn y Bala am 23 mlynedd, ond dydi o ddim wedi arddangos ei waith celf yn yr Eisteddfod ers i’r ŵyl ymweld ag Abergele ugain mlynedd yn ôl.
Yn ogystal â’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi enillwyr rhai o wobrau celf eraill yr ŵyl, gyda Rhian Hâf o Wytherin ger Abergele yn ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio am ei gwaith gwydr.
Derbyniodd y ddau artist siec am £5,000 ar ôl curo cystadleuaeth gan amrywiaeth o geisiadau cryf.
Cafodd Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc gwerth £1,500 ei hennill gan Gwenllian Spink o Aberystwyth, sydd yn 18 oed.
Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, yn trafod arddangosfeydd Y Lle Celf ac enillwyr gwobrau eleni:
Geiriau’r aseswyr yn plesio
Wrth sôn am ei gasgliad buddugol o collages haniaethol, dywedodd Glyn Baines: “Rwy’n hoffi disgrifio fy ngwaith fel dathliad o liw a bywyd.
“Mae yna saith darn i gyd, ac mae pob un yn golygu llawer i mi. Dydw i ddim yn un am wobrau fel arfer ond mae adborth aseswyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyffwrdd fy nghalon ac rwy’n edrych ymlaen i’w gweld yn cael eu harddangos ym Meifod, sef lle mor brydferth ar gyfer yr ŵyl.”
Ers graddio o Goleg Celf Caeredin ac yna Prifysgol Fetropolitan Abertawe mae Rhian Hâf, sydd yn 37 oed, wedi bod yn gweithio ar gasgliad newydd o waith gwydr gyda help grant cynhyrchu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae’n wych o beth i dderbyn y gydnabyddiaeth hon gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar adeg mor gynnar yn fy ngyrfa, ac mae fy nyled yn fawr i bawb a weithiodd gyda mi i wneud y casgliad yn bosibl,” meddai Rhian Hâf.
“Mae fy ymarfer yn canolbwyntio ar gipio effeithiau gwahaniaethol golau a chysgod, a da gweld bod yr aseswyr o’r farn fod hyn wir yn cael ei gyflawni yn Cipio Eiliadau.”