David Davies
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy wedi awgrymu y dylai’r mewnfudwyr sydd yn ceisio cyrraedd Prydain o Calais gael eu cludo i wersylloedd yn Affrica a’r Dwyrain Canol.

Dywedodd David Davies y dylai milwyr o Brydain hefyd gael eu hanfon i’r porthladd yn Ffrainc i geisio delio â’r argyfwng yno.

Yr wythnos hon mae cannoedd o fewnfudwyr sydd wedi bod yn llochesu mewn gwersylloedd dros dro yn Calais wedi ceisio ffoi ar draws y Sianel i Brydain.

Mae tagfeydd ar y ffyrdd yn arwain at y porthladd wedi golygu bod sawl un yn ceisio cyrraedd Prydain drwy neidio ar loriau, tra bod eraill wedi ceisio mynd ar drên yr Eurostar.

‘Rheoli ffiniau’

Ar raglen Today Radio 4, dywedodd AS Ceidwadol Sir Fynwy fod Prydain wedi “colli rheolaeth o’i ffiniau” a bod angen cymryd camau brys.

Awgrymodd y dylai’r llywodraeth, gyda chaniatâd y Ffrancwyr, anfon milwyr i Calais a symud pobl “yn ôl i Affrica neu’r Dwyrain Canol” ac i “wersylloedd dyngarol”.

Fe fyddai arian cymorth datblygu yn gallu cael ei ddefnyddio i adeiladu’r gwersylloedd hynny a bwydo’r rheiny oedd yno.

Ond fe ddywedodd yr AS hefyd bod angen lleihau budd-daliadau ym Mhrydain er mwyn annog y mewnfudwyr i beidio â cheisio dod i’r wlad.

“Mae hawl gennym ni i reoli’n ffiniau ein hunain a phenderfynu pwy sydd yn dod yma ac rydyn ni’n colli’r rheolaeth hynny,” meddai David Davies.