Mae S4C wedi cadarnhau y bydd ail gyfres Y Gwyll yn dod yn ôl i’r sgrin ym mis Medi, gyda phedair stori yn y ddrama dditectif boblogaidd.
Ac, fel gyda’r gyfres gynta’, fe fydd yn cael ei dangos yn Gymraeg i ddechrau, gyda fersiwn Saesneg wedyn ar sianeli eraill.
Fe fydd yr ail gyfres yn gweld Richard Harrington yn parhau yn rôl DCI Tom Mathias, a golygfeydd amrywiol Ceredigion yn cael eu defnyddio unwaith eto yn gefndir.
Gwerthu tros y dŵr
Roedd y gyfres gyntaf yn llwyddiant ysgubol ac mae hi bellach wedi cael ei gwerthu i 30 gwlad wahanol, yn ogystal â bod ar gael yn rhyngwladol ar wasanaeth ar-lein Netflix.
Cafodd rhifyn arbennig o’r Gwyll ei darlledu Ddydd Calan eleni er mwyn gosod y llwyfan ar gyfer yr ail gyfres, gyda DCI Mathias mewn cythrwfl emosiynol wrth i’w orffennol tywyll ei boeni.
Unwaith eto, fe fydd y gyfres ar yr amser brig, am naw nos Sul, gyda phob un o brif gymeriadau’r gyfres ddiwethaf yno eto – DI Mared Rhys (Mai Harries), Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser (Aneirin Hughes), DS Siân Owens (Hannah Daniel) a DC Lloyd Elis (Alex Harries).
Mwy am Mathias
Mae’r gyfres newydd yn debygol o fynd ymhellach i orffennol cythryblus cymeriad Mathias wrth i’w wraig Meg (Anamaria Marinca) ymddangos yn annisgwyl.
Fe fydd yr actor Mark Lewis Jones hefyd yn ymddangos ym mhennod gynta’r gyfres newydd.
Fe fydd patrwm yr ail gyfres yn debyg i’r gyntaf, gyda phedwar achos cwbl newydd dros wyth pennod awr o hyd.
Golygfeydd trawiadol
Mae’r gyfres wedi cael ei chynhyrchu gan Fiction Factory gydag arian yn benna’ gan S4C a BBC Cymru Wales, gydag all3media International, Tinopolis a Chyllid Busnes Cymreig hefyd yn cyfrannu.
Yn ôl un o’r cynhyrchwyr, Ed Thomas, fe fydd teimlad yr ail gyfres yn debyg i’r gynta’.
“Mae ymdeimlad cryf tuag at le yn hollbwysig tuag at lwyddiant y gyfres, ac mae’r storïau wedi esblygu ar leoliad yng Ngheredigion.
“Mae’r dirwedd bron fel cymeriad ynddi ei hunau, ac mae’r gyfres newydd yn dilyn pedair stori gwbl newydd gydag ambell ddatguddiad am gefndir yr actorion wrth galon y cwbl.”
- Fe fydd pennod gynta’r gyfres newydd yn cael ei darlledu yn Gymraeg nos Sul 13 Medi ar S4C, gydag isdeitlau Saesneg, ac fe fydd y fersiwn Saesneg Hinterland ar BBC Cymru Wales a BBC Four yn nes ymlaen.