Sara Maredudd, merch Angharad Jones
Bydd yna sesiwn arbennig yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod i ddathlu bywyd llenor a chyn-gomisiynydd S4C, Angharad Jones a fu farw yn 2010.
Mae’n amserol gan y bydd yn nodi 20 mlynedd ers i Angharad Jones ennill y Fedal Ryddiaith gyda’r Dylluan Wen yn Eisteddfod Genedlaethol Abergele ym 1995.
‘Dathlu ei bywyd’
Fe siaradodd Golwg360 gyda Sara Maredudd, merch Angharad Jones am y sesiwn a fydd, meddai, yn ddathliad o fywyd ei mam: “Mae’n ddathliad o’i bywyd, a’i chyfraniad nid yn unig i lenyddiaeth, ond i S4C hefyd – ei gwaith fel awdures a chomisiynydd drama. Ond y bwriad ydi dathlu ei bywyd hi i gyd, nid dim ond un agwedd.”
Fe fydd nifer o enwau amlwg yn cymryd rhan yn y sesiwn, gan gynnwys Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, Geraint Lovgreen a’r gantores o Faldwyn, Sian James.
Sian James yn canu
Dywedodd Sara Maredudd: “Mae Geraint Lovgreen yn briod a chwaer fy mam ac mae’n wych ei fod ef yn gallu cymryd rhan – roedd gan mam feddwl mawr ohono. Fe fydd Sian James yn canu ambell i gân – mi oedd gan fy mam a Sian bartneriaeth gerdd – mi oedd hi yn sgwennu lot o eiriau i ganeuon Sian ac yn y sesiwn mi fydd Sian yn canu’r gân ‘Y Llyn’. Rydan ni’n meddwl mai dyna oedd ei cherdd olaf hi.”
Ychwanegodd: “Mae’r gân honno yn golygu lot i ni i gyd. Mi ydw i wrth fy modd gyda hi ac mae Sian wedi gwneud cyfiawnder gyda’r geiriau.”
Wrth edrych ymlaen at ddydd Sadwrn, dywedodd Sara Maredudd: “Dwi’n hoffi meddwl y byddai mam eisiau awyrgylch hapus yn hytrach na’i bod yn drist.”
Bydd y sesiwn yn dechrau am 12.45 ar ddydd Sadwrn, 1 Awst yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod.