Yr Is-gorporal Michael Campbell (Llun: PA)
Mae milwr o Fae Colwyn wedi marw o anafiadau a dioddefodd yn Afghanistan dair blynedd yn ôl.

Roedd yr Is-Gorporal Michael Campbell o 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol wedi cael ei saethu yn ei stumog ym mis Ebrill 2012.

Mewn datganiad, dywedodd y Weiniyddiaeth Amddiffyn:

“Roedd LCpl Campell yn ymroddgar, proffesiynol ac yn barod i wirfoddoli lle bynnag roedd angen; rhyfelwr Cymreig o’r iawn ryw.

“Mae’r Bataliwn wedi colli cyfaill carismataidd a theyrngar a chydymdeimlwn â’i wraig Christine a gweddill ei deulu ar yr adeg anodd yma.”

Roedd wedi ymuno â 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol ym Mae Colwyn yn 2001.