Fe fydd llwybr newydd yn cael ei greu i gysylltu dwy o lwybrau cenedlaethol Cymru a’i gwneud yn haws i gerdded reit o amgylch y wlad.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael arian i greyu cywllt rhwng Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru, yn rhan o gyfres o grantiau sydd wedi eu cyhoeddi i brosiectau glan-môr.

Fe fydd pump o gynlluniau’n rhannu mwy na £1 milwn o dan y Gronfa Cymunedau’r Arfordir –  mae dau yn Sir y Fflint, day yn ardal Port Talbot ac un ym Mhorthcawl.

  • Fe fydd bron chwarter miliwn yn cael eu gwario ar ddigwyddiadau i ddenu rhagor o bobol i Aberafan a £50,000 arall ar greu ysgol syrffio yno.
  • Yn ogystal â bron £300,000 i Sir y Fflint greu’r llwybr newydd a gwella Llwybr yr Arfordir, fe fydd bron £200,000 yn mynd at greu adnoddau twristaidd yn harbwr Cei Conna.
  • I Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr y bydd y swm mwya’ – £300,000 – yn mynd, i adeiladu llwybr droed a beiciau rhwng gwahanol atyniadau ym Mhorthcawl.

Fe gafodd y Gronfa ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2011 ac roedd cyhoeddiad yn gynharach eleni am gyfrannu mwy na £4 miliwn at brosiectau eraill.

Mae’r Gronfa’n cael ei gweinyddu gan Gronfa’r Loteri Fawr.